Llyn Coch
llyn ger Yr Wyddfa, Eryri, Cymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Llyn bychan yn Eryri, Gwynedd, yw Llyn Coch. Fe'i lleolir yng Nghwm Clogwyn yn uchel ar lethrau gorllewinol Yr Wyddfa tua milltir i'r gorllewin o'r copa.[1] Mae'r llyn 700llath wrth tua 150 llath.[2]
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Cau
Mae dŵr y llyn yn fas. Llifa ffrwd iddo o lethrau'r Wyddfa ger llaw. Mae dyfroedd y ffrwd a'r llyn ei hun yn goch oherwydd presenoldeb haearn. Y lliw coch hwn sy'n rhoi ei enw i'r llyn. Ceir rhai brithyll bychain yn y llyn.[2]
Llifa ffrwd o ben gogleddol y llyn i lifo i lawr i Afon Treweunydd sy'n llifo wedyn i Llyn Cwellyn. Tua chwarter milltir i'r gorllewin o Lyn Coch ceir llyn bychan arall, sef Llyn Nadroedd.[1]