From Wikipedia, the free encyclopedia
Drama Gymraeg gan Dafydd James ydy Llwyth a berfformiwyd yn wreiddiol gan gwmni theatr Sherman Cymru yn 2010. Mabwysiadwyd y ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru yn dilyn penodiad Arwel Gruffydd fel arweinyddydd artistig, ac ail-deithwyd y cynhyrchiad drwy Gymru, ac i'r Ŵyl Ymylol yng Nghaeredin.[1] Cafwyd dilyniant i'r ddrama yn 2022 gyda'r cynhyrchiad Tylwyth, eto gan Dafydd James.[2]
Cymru | |
Enghraifft o'r canlynol | drama lwyfan |
---|---|
Awdur | Dafydd James |
Cyhoeddwr | Sherman Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 2011 |
Cysylltir gyda | Theatr Genedlaethol Cymru |
Argaeledd | mewn print |
Adrodda hanes bedwar ffrind hoyw o Gaerdydd ar noson gêm rygbi rhyngwladol. Disgrifiodd Arwel Gruffydd y ddrama sydd fel Sex and the City a Queer as Folk, gydag ychydig o Braveheart ynddo hefyd.[3] Cyhoeddwyd y ddrama gan Gwasg Cambrian, Aberystwyth gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.
"Seren y sioe - yn ei feddwl ei hun - yw Aneurin [...] awdur yn Llundain sy di cefnu ar ei deulu a Chymru fach," yn ôl Lowri Haf Cooke. "Mae e'n breuddwydio am gipio gwobr Booker am ei ddiweddariad o'r Gododdin, ac yn ymhyfrydu yn ei orchestion rhywiol gyda dieithriaid y ddinas fawr ddrwg", ychwanegodd mewn adolygiad o'r ddrama.[4]
"Ond ar ôl mentro adre ar y Megabus, caiff groeso mawr gan ei lwyth yng Nghaerdydd; yn eu plith, Rhys,[...] athro mathemateg a chyfaill bore oes; Gareth, [...] cariad di-Gymraeg Rhys sydd yn gweithio mewn gym - a Dada annwyl, [...] dyn hŷn sy'n fam iddynt oll. Wrth inni ddilyn eu noson, o snortio coke o flaen Strictly yn fflat smart Dada i ochr-gamu chwaraewyr rygbi a chyn-gariadon yng nghlybiau canol y ddinas, daw'n amlwg bod tensiynau mawr yn llechu yn y cysgodion, a phan ddaw cyn-ddisgybl Rhys, Gavin [...] i ymuno â'r criw, buan iawn y dont oll i'r wyneb."[4]
"Cryfder gwaith Dafydd, yw gogoniant y cynhyrchiad;" yn ôl yr adolygydd Paul Griffiths yn Y Cymro, "yr onestrwydd unigryw am fod yn hoyw yn y Gymru sydd ohoni, a’r cyfan mewn iaith mae Dafydd yn gwbl gyfarwydd ag ef. Mae yma astudiaeth sensitif o berthynas sawl cenhedlaeth, a’i effaith ar y teulu", ychwanegodd.[5]
"Ond yr hyn sy’n gosod y ddrama uwchlaw trybini’r teulu, y cyffuriau a’r caru, yw naratif Aneurin sy’n adrodd y stori wrth wibio i lawr Burghley Road, Llundain; naratif sy’n swyno’r gynulleidfa o’r cychwyn cyntaf, ac yn ein dwyn i mewn i’r stori dwymgalon hon. “Haul braf a’i nwyd yn cydio. Vest-tops cynta’r gwanwyn, bechgyn yn prancio a Dynion. Llwyth o ddynion, llwyth o gyhyrau; cnawd ar gerdded, tra bo fi ar feic ar frys yn chwys diferol.”[5]
Seilwyd y ddrama ar hanes Y Gododdin, gyda'r dramodydd yn cymharu'r llwyth cyntefig o ryfelwyr gyda'r Llwyth presennol o fechgyn hoyw yng Nghaerdydd. Nododd Paul Griffiths fod y sgript yn "gyfoethog o gyfeiriadaeth lenyddol o’r Gododdin i Iolo Morgannwg".[5] Datblygwyd y ddrama wreiddiol gan Sherman Cymru, cyn cael ei drosglwyddo i'r Theatr Genedlaethol.
Llwyfannwyd y ddrama'n wreiddiol gan Sherman Cymru yn 2010. Cyfarwyddwyr Arwel Gruffydd,[6] cast:
Derbyniodd y cynhyrchiad adolygiadau cadarnhaol iawn gan y Wasg Gymreig a'r wasg yn Lloegr. Dywedodd Nathan Williams yn The Guardian am bob moment sentimental yn y ddrama
"...there's a joke waiting in the wings that creases up the audience and breaks the tension. It's a very funny play, but it's also a very self-conscious one, aware that it is at times walking a tightrope between perspicacity and banality. It has that rare quality of looking and feeling as if it's been painstakingly drafted and re-drafted, combed over again and again, until every reference, every idiom, every detail, is just so."[7]
Credai nifer o'r beirniaid fod y ddrama hefyd yn arloesol am ei bod yn delio â materion dadleuol cyfoes mewn modd diflewyn ar dafod. Dywedodd Gwyn Griffiths yn ei adolygiad ar gyfer BBC Cymru "Fedra i ddim cofio gweld drama lwyfan gyda deialog mor rhwydd a doniol, clyfar, hanner Cymraeg a hanner Saesneg, eto'n asio'n gyfanwaith cyfoethog." Dywed hefyd ei fod yn "Hyfryd gweld cast mor arbennig o gryf, pob un yn ardderchog" [8] Ategwyd hyn gan Jamie Rees o wefan Buzzmag.com pan ddywed "Once in a while a piece of theatre comes along that changes the artistic landscape of the country that produced it, taking the genre to a whole new level."
Disgrifiodd Catrin Rogers ar wefan Tu Chwith fod y "script, y cyflymder, datblygiad pob un cymeriad a safon yr actio yn gwneud hon yn un o’r dramau mwyaf crefftus, difyr, dwys – a hir-ddisgwyliedig – yn hanes theatr Cymru dros y ganrif ddwytha."[9]
Yn ôl Paul Griffiths yn Y Cymro, gyda chyrhaeddiad Dafydd James, "fod yma lais newydd, gonest, ffres a phwysig ar gyfer y Theatr Gymraeg"[5]
Ail lwyfannwyd y ddrama yn 2011, gan fynd â'r cynhyrchiad ar daith i Lundain ac i'r Ŵyl Ymylol yng Nghaeredin.
Un fu'n ymweld â'r Ŵyl yng Nghaeredin, oedd yr adolygydd Lowri Haf Cooke: "Ar gyfer llwyfaniad Llwyth yn Eglwys St George's West, bu'n rhaid addasu'r ddrama rhyw fymryn, a gwnaethpwyd yn fawr o'r cysylltiadau â Chaeredin, gan gynnwys ei chyfeiriadau di-ri at Hen Ogledd y Gododdin a thaith côr Rhys i'r Ŵyl. [...] Rhoddwyd hefyd le canolog i'r uwch-deitlau Saesneg ac o brofi'r bonllef o gymeradwyaeth a bochau gwlyb y gynulleidfa ddi-Gymraeg, teg dweud iddynt lwyddo'n rhagorol i gyfleu geiriau sy'n gwyro rhwng Wenglish hamddenol a barddoniaeth gain mewn Cymraeg coeth."[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.