![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d8/Eglwys_Llandysiliogogo%252C_Llwyndafydd%252C_Ceredigion%252C_Wales_2.jpg/640px-Eglwys_Llandysiliogogo%252C_Llwyndafydd%252C_Ceredigion%252C_Wales_2.jpg&w=640&q=50)
Llwyndafydd
pentref bychan yng Ngheredigion / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yng nghymuned Llandysiliogogo, Ceredigion, Cymru, yw Llwyndafydd[1][2] (weithiau Llwyn-dafydd). Mae'n gorwedd rhai milltiroedd i'r de o dref fechan Ceinewydd ac yn rhan o gymuned Llandysiliogogo. Mae ar lan Afon Ffynnon Ddewi sy'n llifo i'r môr ger Cwmtydi, tua 2 filltir i'r gogledd-orllewin ar lan Bae Ceredigion.
![]() Eglwys Llantysiliogogo, ger Llwyndafydd | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.1732°N 4.384365°W ![]() |
Cod OS | SN370554 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Yn "Neuadd Llwyndafydd" y trigai yr uchelwr Dafydd ab Ieuan, a chredir i Harri Tudur ymweld ag ef ar ei daith i Frwydr Bosworth.[3]
Credir mai yn Llwyndafydd y bu canolfan gynharaf cwmwd Caerwedros, er bod pentref Caerwedros, i'r gogledd o Lwyndafydd, yn dwyn enw'r hen gwmwd.
Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Caerwedros a Nanternis. Saif hen domen mwnt a beili Castell Caer Wedros tua hanner kilometr i'r gogledd-ddwyrain o Lwyndafydd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[5]
- Neuadd Llwyndafydd
- Enw'r pentref ar arwydd
- Bwthyn bach to gwellt