![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/74/St_Hychan%2527s_Church%252C_Eglwys_Llanychan%252C_Rhuthun%252C_Sir_Ddinbych%252C_Cymru%252C_Wales_09.jpg/640px-St_Hychan%2527s_Church%252C_Eglwys_Llanychan%252C_Rhuthun%252C_Sir_Ddinbych%252C_Cymru%252C_Wales_09.jpg&w=640&q=50)
Llanychan
Pentref bychan gerllaw Llandyrnog, Sir Ddinbych / From Wikipedia, the free encyclopedia
Eglwys a phentreflan yw Llanychan( ynganiad ) (neu Eglwys Hychan Sant), a saif rhwng Rhewl a Gellifor, Rhuthun (Cyfeirnod OS: SJ 114621). Ceir rheithordy o frics coch o'i blaen, ac felly anodd yw gweld yr eglwys o'r ffordd fawr, a llond llaw o dai anedd eraill. Enwyd yr eglwys hynafol hon ar ôl Sant Hychan a fu'n byw ar y safle yn 450 OC, ac mae'r cofnod cyntaf o'r eglwys bresennol yn mynd yn ôl i 1254. Roedd yma ysgol hyd at ddechrau'r ganrif ddiwethaf.
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.149°N 3.326°W ![]() |
![]() | |
Yma y ganwyd Cyril Radcliffe, Is-iarl 1af Radcliffe a ddaeth yn Gadeirydd y pwyllgor a greodd ffiniau newydd India, Bangladesh a Pacistan. Yn y trais a ddilynodd ar ôl annibyniaeth, credir i rhwng rhai cannoedd o filoedd a dwy filiwn farw,[1] a chafodd miliynau rhagor eu hanafu.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/ba/Plas_Coch_Farm%2C_Llanychan_-_geograph.org.uk_-_135370.jpg/320px-Plas_Coch_Farm%2C_Llanychan_-_geograph.org.uk_-_135370.jpg)
Mae'n blwyf o 567 erw - plwyf lleiaf Esgobaeth Llanelwy. Mae'r pentref oddeutu tair milltir i'r gogledd-ddwyrain o Ruthun.
Cofrestrwyd yr eglwys yn Gradd II* ar 19 Gorffennaf 1966 gan Cadw; rhif cofrestru: 787. Mae distiau pren yn y to yn dyddio o'r 16C. Dim ond dwy eglwys yng Nghymru sydd wedi eu henwi ar ôl Sant Hychan, a dyma un ohonynt. Sonir am yr eglwys hon gyntaf yng Nghofnodion Treth Norwich yn 1254.[2] Mae ei llan gylchog uchel yn nodedig iawn ac yn brawf y bu yma unwaith Eglwys Geltaidd, gynharach. Mae Eglwys Sant Hychan yn debyg iawn o ran arddull i Eglwys Sant Cynhafal, ond ei bod yn llawer llai ac nid oes iddi ddau gorff, nodwedd bensaernïol gyffredin iawn yn Nyffryn Clwyd.
- Awyrlun
- Arwydd 'Llanychan'
- Y Rheithordy
- Bedd Alan Crosland Graham, Neuadd Clwyd, Rhuthun. AS y Wirral, 1936-45.
- Y porth
- Teils llawr yr eglwys