Llansantffraid, Ceredigion
pentref bychan a chymuned yng Ngheredigion / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned yng nghanolbarth Ceredigion yw Llansantffraid, hefyd Llansanffraid a Llansantffraed. Saif ar yr arfordir, i'r gogledd o Aberaeron ac ychygig i'r gorllewin o'r briffordd A487 a phentref mwy Llan-non. Erbyn hyn mae Llansantffraid bron wedi dod yn rhan o Lan-non. Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys Llannon ei hun. Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o'r 15g, i'r santes Ffraid.
Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Enwyd ar ôl | Ffraid |
Poblogaeth | 1,241, 1,212 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,703.38 ha |
Cyfesurynnau | 52.285°N 4.183°W |
Cod SYG | W04000389 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Cau
- Am leoedd eraill o'r enw "Llansantffraid" (neu enwau tebyg), gweler Llansantffraid (gwahaniaethu).
Roedd Morfa Esgob, i'r de o'r pentref, yn arfer bod yn eiddo i Esgob Tyddewi. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,241.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]