Llanrug
pentref a chymuned yng Ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref gweddol fawr a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanrug[1][2] ( ynganiad ). Saif 4 milltir i'r dwyrain o dref Caernarfon, 7 milltir i'r de o Fangor ar briffordd yr A4086 rhwng Caernarfon a Llanberis, sydd 3 milltir i'r gogledd-orllewin.
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.148°N 4.193°W |
Cod SYG | W04000086 |
Cod OS | SH534634 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Llifa Afon Rhythallt heibio'r pentref, gan newid ei henw i Afon Seiont ar ôl llifo dan Bont Rhythallt. Mae ysgol uwchradd Ysgol Brynrefail yma. Yn fras, saif tua hanner ffordd rhwng Afon Menai a'r Wyddfa. I'r de o'r pentref gwelir ucheldir Cefn Du; i'r de-ddwyrain cwyd yr Wyddfa a'i chriw, ac i'r dwyrain y ddwy, sef Elidir Fach ac Elidir Fawr gyda thomennydd y chwarel llechi.
Llanrug yw'r pentref mwyaf yn ardal Arfon. Mae ganddo'r canran uchaf (81%) o siaradwyr Cymraeg a phoblogaeth o tua 2,500. Enw gwreiddiol y pentref oedd "Llanfihangel-yn-y-Grug" a enwyd ar ôl Eglwys Sant Mihangel sydd tua hanner milltir i'r gorllewin o'r pentref.