![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bd/Mynydd_Llanllwni_-_geograph.org.uk_-_388950.jpg/640px-Mynydd_Llanllwni_-_geograph.org.uk_-_388950.jpg&w=640&q=50)
Llanllwni
pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanllwni. Saif y pentref ar hyd y briffordd A485, yn ymestyn am tua 4 km, fymryn i'r de-orllewin o Lanybydder. I'r de o'r pentref mae Mynydd Llanllwni. Cysegrwyd yr eglwys, yn dyddio o'r 16g, i Sant Luc, ond gynt i Sant Llwni.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 638 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,672.84 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.0331°N 4.2042°W ![]() |
Cod SYG | W04000536 ![]() |
Cod OS | SN489395 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
![]() | |
Cau
Heblaw pentref Llanllwni, mae'r gymuned yn ymestyn hyd at lan ddeheuol Afon Teifi ac yn cynnwys copa Mynydd Llanybydder (408 m). Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y gymuned boblogaeth o 676 gyda 72.19% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg.
Cynrychiolir cymuned Llanllwni yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]