![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5d/Dyfed-Powys_Police_HQ%252C_Llangunnor%252C_Carmarthen_-_geograph.org.uk_-_25020.jpg/640px-Dyfed-Powys_Police_HQ%252C_Llangunnor%252C_Carmarthen_-_geograph.org.uk_-_25020.jpg&w=640&q=50)
Llangynnwr
pentref yn Sir Gaerfyrddin / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llangynnwr, hefyd Llangunnor. Saif y pentref fymryn i'r dwyrain o dref Caerfyrddin, ger glan ddeheuol Afon Tywi. Cysegrwyd yr eglwys, yn dyddio o'r 14g, i Sant Ceinwr. Mae David Charles yr emynydd a Lewis Morris y bardd Eingl-Gymreig wedi eu claddu yn y fynwent.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 2,381 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,314.91 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.857°N 4.276°W ![]() |
Cod SYG | W04000531 ![]() |
Cod OS | SN433200 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au | Ann Davies (Plaid Cymru) |
![]() | |
Cau
Heblaw pentref Llangynnwr ei hun, mae'r Gymuned yn cynnwys pentref Nant-y-caws a dwy o faesdrefi Caerfyrddin, Tregynnwr a Phen-sarn. Mae pencadlys Heddlu Dyfed-Powys o fewn y gymuned yma. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y gymuned boblogaeth o 2,282 gyda 67.24% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg.
Cynrychiolir cymuned Llangynnwr yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ann Davies (Plaid Cymru).[1][2]