![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/85/Llangyndeyrn_Parish_Church_-_geograph.org.uk_-_978330.jpg/640px-Llangyndeyrn_Parish_Church_-_geograph.org.uk_-_978330.jpg&w=640&q=50)
Llangyndeyrn
pentref yn Sir Gaerfyrddin / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llangyndeyrn (Seisnigiad: Llangendeirne ar rai mapiau). Saif ar y ffordd B4306 ar lan Afon Gwendraeth Fach, i'r de-ddwyrain o dref Caerfyrddin. Fe'i enwir ar ôl Cyndeyrn.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 3,102 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 4,719.92 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8033°N 4.2393°W ![]() |
Cod SYG | W04000532 ![]() |
Cod OS | SN457140 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au | Nia Griffith (Llafur) |
![]() | |
Cau
Heblaw pentref Llangyndeyrn ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Carwe, Pont-iets (rhan), Meinciau, Pum Heol, Crwbin, a Phontantwn. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,952, gyda 76.53% yn medru rhywfaint o Gymraeg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Nia Griffith (Llafur).[1][2]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/2b/Llangyndeyrn_Parish_Church_-_geograph.org.uk_-_1258652.jpg/320px-Llangyndeyrn_Parish_Church_-_geograph.org.uk_-_1258652.jpg)