![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/2a/Maen_Hir_Llangwnnadl_Standing_Stone_-_geograph.org.uk_-_532427.jpg/640px-Maen_Hir_Llangwnnadl_Standing_Stone_-_geograph.org.uk_-_532427.jpg&w=640&q=50)
Llangwnnadl
pentref yng Ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bach yng nghymuned Tudweiliog, Gwynedd, Cymru, yw Llangwnnadl ( ynganiad ) (neu Llangwnadl). Saif ym mhen gorllewinol Llŷn tua milltir o'r môr rhwng Aberdaron a Nefyn ar ochr ogleddol pen eithaf penrhyn Llŷn. O'r pentref mae lôn gul yn arwain i lawr i Borth Golman ar lan bae agored traeth Penllech a'i draethau tywod braf.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.86°N 4.66°W ![]() |
Cod OS | SH208331 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Cau
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]