Llŷn
cantref yng Nghymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Llŷn yw enw cantref hanesyddol yng ngogledd-orllewin Cymru, sy'n cyfateb yn fras i'r hyn a elwir 'Pen Llŷn' heddiw. Dyma'r Llŷn go iawn.
- Gweler hefyd Llŷn (gwahaniaethu).
Cantref wedi'i amgylchynnu ar ddwy ochr gan y môr yw Llŷn, yn sefyll ar wahân ac yn wynebu dros y Môr Celtaidd i dde-ddwyrain Iwerddon. Yn y dwyrain mae'n ffinio ag Arfon ac Eifionydd. Credir fod perthynas ieithyddol rhwng yr enwau Llŷn a Leinster a gwyddys fod mewnfudwyr o'r rhan honno o'r Ynys Werdd wedi ymsefydlu mewn rhannau o Lŷn yn Oes yr Haearn ymlaen.
Ymrennir y cantref yn dri chwmwd, sef Dinllaen a'i llys yn Nefyn, Cymydmaen a'i llys yn Neigwl, a Chafflogion (neu Afflogion) gyda Pwllheli yn ganolfan iddi. O fewn y cantref ceid y clas neu fynachlog Geltaidd gynnar yn Aberdaron ac Ynys Enlli enwog.
Roedd Llŷn yn gartref i lwyth Celtaidd o'r enw y Gangani. Ceir sawl bryngaer yn Llŷn a berthynai iddynt, er enghraifft ym Mortin-llaen, Carn Fadryn a Thre'r Ceiri ar Yr Eifl. Safai'r olaf ar y ffin rhwng Llŷn a chantref Arfon.