![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0e/Garn_Fadryn.jpg/640px-Garn_Fadryn.jpg&w=640&q=50)
Carn Fadryn
bryn (371m) yng Ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Carn Fadryn (neu Carn Fadrun), sy'n fynydd 1,217 troedfedd (371m), yw'r pwynt uchaf yng ngorllewin Llŷn, Gwynedd. Tua hanner milltir i'r de-ddwyrain o'r copa mae copa llai Garn Bach; cyfeiriad grid SH278351. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 28 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | copa, bryn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 371 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.8857°N 4.5608°W ![]() |
Cod OS | SH2786935186 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 343 metr ![]() |
Rhiant gopa | Yr Eifl ![]() |
![]() | |
Cau
Ceir golygfa o ben y mynydd dros benrhyn Llŷn, yn cynnwys tri chopa Yr Eifl i'r gogledd-ddwyrain a mynyddoedd Eryri i'r dwyrain. Mae pen y mynydd yn wastad ond mae ei lethrau'n syrth a chreigiog. Mae creigiau Carn Fadryn o darddiad fwlcanig. Wrth ei droed mae pentref Llaniestyn.