Llanfaelrhys
pentref yng Ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref gwledig a phlwyf yng nghymuned Aberdaron, Gwynedd, yw Llanfaelrhys[1] ( ynganiad ). Fe'i lleolir ger arfordir de-orllewinol penrhyn Llŷn, rhwng pentrefi Aberdaron i'r gorllewin a Rhiw i'r dwyrain.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Aberdaron |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.809°N 4.656°W |
Cod OS | SH210268 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Cau
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd eglwys Llanfaelrhys gan Sant Maelrhys (neu Maelrys, Maelerw), cefnder Sant Hywyn, sefydlydd eglwys Aberdaron ; dywedir fod Maelrhys yn un o seintiau Ynys Enlli. Roedd yr eglwys yn un o gapeli Aberdaron yn yr Oesoedd Canol a'r plwyf yn rhan o gwmwd Cymydmaen.
Mae'r ardal yn ne'r plwyf, uwchben bae Porth Ysgo, yn perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yma ceir clogwynni mawr sy'n disgyn yn syrth i'r traeth creigiog islaw.