![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/64/Plas_Newydd_t%25C5%25B7_rhestredig_Gradd_I_yn_Llanddaniel_Fab%252C_Ynys_M%25C3%25B4n_-_Grade_I_LB_-_Plas_Newydd_country_house_in_Llanddaniel_Fab_Anglesey%252C_Wales_20.png/640px-Plas_Newydd_t%25C5%25B7_rhestredig_Gradd_I_yn_Llanddaniel_Fab%252C_Ynys_M%25C3%25B4n_-_Grade_I_LB_-_Plas_Newydd_country_house_in_Llanddaniel_Fab_Anglesey%252C_Wales_20.png&w=640&q=50)
Llanddaniel Fab
cymuned ar Ynys Môn / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwsyig yw Llanddaniel Fab (gynt Llanddeiniol Fab). Mae'n gorwedd yn ne-orllewin Ynys Môn, ar ffordd gefn rhwng Y Gaerwen ar ffordd yr A5 a Llanedwen ar yr A4080. Mae'n rhan o ward Llanidan.
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.21°N 4.253°W ![]() |
Cod SYG | W04000012 ![]() |
Cod OS | SH4970, SH5040569796 ![]() |
Cod post | LL60 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
![]() | |
Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Menai, cantref Aberffraw. Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Ddaniel Fab (Deiniol Fab; hefyd Deiniolen).
Mae claddfa gynhanesyddol enwog Bryn Celli Ddu ychydig i'r de o'r pentref. Yma hefyd y saif Plas Llwyn-onn.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/58/Arwydd_Llanddaniel_FAB.jpg/640px-Arwydd_Llanddaniel_FAB.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/eb/The_former_St_Deiniol%27s_Church%2C_Llanddaniel_Fab.jpg/320px-The_former_St_Deiniol%27s_Church%2C_Llanddaniel_Fab.jpg)
Mae'n debyg mai mab enwocaf y pentref yw Tecwyn Roberts (1925-1988), a ddaeth yn swyddog Flight Dynamics cyntaf NASA gyda phrosiect Mercury a roddodd yr Americanwr cyntaf i'r gofod. Ganed Roberts ym Mwthyn Trefnant bach yn Llanddaniel Fab ac roedd yn gyn-ddisgybl Ysgol Parc y Bont. Ar ôl gwasanaethu fel aelod o dîm prosiect Avro Arrow a'r grŵp gorchwyl gofod, trosglwyddodd Roberts i NASA lle daeth yn bennaeth yr is-adran cymorth hedfan â chriw yn y pen draw, yn bennaeth ar yr is-adran peirianneg rhwydwaith yn ystod rhaglen Apollo ac yn ddiweddarach Cyfarwyddwr y rhwydweithiau yng Nghanolfan hedfan y gofod yn Goddard.[1]