From Wikipedia, the free encyclopedia
Llenor ac ymgyrchydd hawliau dynol Tsieineaidd oedd Liu Xiaobo (Tsieineeg: 刘晓波; pinyin: Liú Xiǎobō; 28 Rhagfyr 1955 – 13 Gorffennaf 2017).[1][2] Roedd yn feirniad o lywodraeth Plaid Gomiwnyddol Tsieina, yn un o garcharorion gwleidyddol amlyca'r byd, ac yn enillydd Gwobr Heddwch Nobel yn 2010.[3] Cafodd ei garcharu am y tro cyntaf ym 1989, yn sgil protestiadau Sgwâr Tiananmen.[4] Enillodd Wobr Heddwch Nobel tra'r oedd ar ei bedwerydd cyfnod yn y carchar yn Jinzhou, Liaoning.[5][6][7] Cafodd ei ryddhau ar barôl meddygol ar 26 Mehefin 2017 yn sgil ei ddiagnosis angheuol o ganser yr afu,[8] a bu farw dwy wythnos a hanner yn ddiweddarach yn 61 oed.
Liu Xiaobo | |
---|---|
Ganwyd | 28 Rhagfyr 1955 Changchun |
Bu farw | 13 Gorffennaf 2017 First Affiliated Hospital, China Medical University |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, amddiffynnwr hawliau dynol, beirniad llenyddol |
Swydd | llywydd corfforaeth |
Cyflogwr | |
Priod | Liu Xia |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, Hermann Kesten, Gwobr Homo Homini, Gwobr Un Dynoliaeth, Medal Giuseppe Motta, PEN Barbara Goldsmith Freedom to Write Award, Fondation de France Prize for press freedom defender, Human Rights Press Award |
Fe wasanaethodd yn llywydd Canolfan Annibynnol PEN yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina o 2003 i 2007. Sefydliad rhyngwladol ar gyfer llenorion yw PEN sydd yn hyrwyddo rhyddid mynegiant, rhyddid y wasg ac hawliau dynol. Roedd Liu hefyd yn llywydd y cylchgrawn Minzhu Zhongguo ("Tsieina Ddemocrataidd") ers canol y 1990au. Fe gafodd ei gadw yn y ddalfa ar 8 Rhagfyr 2008 oherwydd ei ran yn ysgrifennu'r maniffesto Siarter 08 o blaid ddiwygiadau gwleidyddol a chael gwared â'r system un-blaid yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina. Cafodd ei arestio'n ffurfiol ar 23 Mehefin 2009 ar gyhuddiad o "annos dymchweliad grym y wladwriaeth".[9][10] Cafodd ei roi ar brawf ar 23 Rhagfyr 2009,[11] a deuddydd yn ddiweddarach ei ddedfrydu i garchar am 11 mlynedd a'i ddifreinio o'i hawliau gwleidyddol am ddwy flynedd.[12]
Dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo yn 2010 am "ei frwydr hir, ddi-drais dros hawliau dynol sylfaenol yn Tsieina".[14][15][16][17] Liu oedd y Tsieinead cyntaf i ennill Gwobr Nobel tra'n byw yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina.[18] Liu yw'r trydydd unigolyn i ennill Gwobr Heddwch Nobel tra'r oedd yn y carchar, ar ôl Carl von Ossietzky (1935) ac Aung San Suu Kyi (1991).[19]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.