gwleidydd o Myanmar ac enillydd Gwobr Heddwch Nobel From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures o Myanmar yw Aung San Suu Kyi (Byrmaneg: အောင်ဆန်းစုကြည်; ganwyd 19 Mehefin 1945) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd, awdur, gweithredydd dros hawliau dynol ac enillydd Gwobr Nobel (1991).
Aung San Suu Kyi | |
---|---|
Llais | Aung San Suu Kyi BBC Radio4 Desert Island Discs 27 January 2013 b01q7gvl.flac |
Ganwyd | 19 Mehefin 1945 Yangon |
Man preswyl | Llyn Inya, Delhi Newydd, Rhydychen, Dinas Efrog Newydd, Llundain, Shimla, Myanmar, Yangon, 54 University Avenue |
Dinasyddiaeth | Myanmar |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor, amddiffynnwr hawliau dynol |
Swydd | cadeirydd, Minister of the President's Office, Minister of Foreign Affairs (Myanmar), Minister of Education (Myanmar), Minister of Electric Power (Myanmar), Cwnsler Gwladriaeth Myanmar, Member of the House of Representatives of Burma |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Freedom from Fear |
Plaid Wleidyddol | Cynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth |
Tad | Aung San |
Mam | Khin Kyi |
Priod | Michael Aris |
Plant | Alexander Aris, Kim Aris |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, Commandeur de la Légion d'honneur, Gwobr Sakharov, Gwobr Goffa Thorolf Rafto, International Simón Bolívar Prize, Wallenberg Medal, Medal Aur y Gyngres, Václav Havel Prize, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Olof Palme, Gwobr UNESCO-Madanjeet Singh, Four Freedoms Award – Freedom from Fear, Chatham House Prize, Medal Giuseppe Motta, Gwangju Prize for Human Rights, Gwobr Llysgennad Cydwybod, Gwobr Ryngwladol Catalwnia, honorary Canadian citizenship, Silver Medal of the Chairman of the Senate, Dyngarwr y Flwyddyn, honorary doctor of the University of Hong Kong, Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Gwobr Rhyddid, Honorary Companion of the Order of Australia, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel, Urdd Awstralia, Global Citizen Awards |
llofnod | |
Hi yw arweinydd y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth a'r Cwnsler Gwladol cyntaf, swydd debyg i brif weinidog. Hi hefyd yw'r fenyw gyntaf i wasanaethu fel Gweinidog dros Faterion Tramor, ar gyfer Swyddfa'r Llywydd, ar gyfer Pwer Trydan ac Ynni, ac ar gyfer Addysg. Rhwng 2012 a 2016 roedd yn AS dros Dreflan Kawhmu i Dŷ'r Cynrychiolwyr.
Hi oedd merch ieuengaf Aung San, "Tad y Genedl" (Myanmar), a Khin Kyi, ac fe'i ganed mewn pentref bychan o'r enw Hmway Saung ger Rangoon, (Yangon heddiw), yn yr hyn a elwid yn "British Burma". Ochrodd ei thad, Aung San, gyda'r Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Sefydlodd fyddin Burma a thrafododd annibyniaeth Burma oddi wrth yr Ymerodraeth Brydeinig yn 1947; cafodd ei lofruddio gan ei wrthwynebwyr yn yr un flwyddyn.
Mynychodd Aung San Suu Kyi Goleg yr Arglwyddes Shri Ram i Ferched, Ysgol Uwchradd Addysg Elfennol, Rhif 1, Coleg St Hugh. Ar ôl graddio o Brifysgol Delhi yn 1964 a Phrifysgol Rhydychen yn 1968, bu'n gweithio yn y Cenhedloedd Unedig am dair blynedd. Priododd Michael Aris ym 1972, a chawsant ddau o blant: Alexander Aris a Kim Aris.[1][2][3][4][5][6]
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Freedom from Fear.
Roedd gwleidyddiaeth yn ei gwaed ers yn ifanc iawn, a daeth Aung San Suu Kyi i amlygrwydd yn Chwyldro 1988; fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth (NLD), plaid a oedd newydd gael ei sefydlu ganddi.
Yn etholiadau 1990, enillodd ei phlaid, yr NLD, 81% o'r seddi yn y Senedd, ond cafodd y canlyniadau eu diddymu, a gwrthododdd y fyddin drosglwyddo pwer y wlad i'w phlaid, gan arwain at brotestiadau rhyngwladol. Roedd hi eisoes wedi cael ei chadw dan arestiad-tŷ cyn yr etholiadau a chadwyd hi felly am bron i 15 o'r 21 mlynedd rhwng 1989 a 2010, gan ddod yn un o garcharorion gwleidyddol amlycaf y byd.
Boicotiodd ei phlaid etholiadau 2010, gan arwain at fuddugoliaeth bendant i 'Blaid Undod a Datblygu'r Undeb' a oedd yn cael ei gefnogi gan y fyddin. Etholwyd Aung San Suu Kyi yn AS dros Pyithu Hluttaw tra enillodd ei phlaid 43 o'r 45 sedd wag yn is-etholiadau 2012. Yn etholiadau 2015, enillodd ei phlaid fuddugoliaeth lawn, gan gymryd 86% o'r seddi yng Nghynulliad yr Undeb. Gwaharddwyd hi rhag bod yn Llywydd y wlad, gan bod ei gŵr a'i phlant yn ddinasyddion tramor, ond penodwyd hi'n Gwnsler Gwladol, swydd debyg i Brif Weinidog. [7][8][9][10]
Mae anrhydeddau Aung San Suu Kyi yn cynnwys y Wobr Heddwch Nobel, a enillodd ym 1991. Enwebodd Time Magazine hi fel un o "Blant Gandhi" a'i etifedd ysbrydol sy'n credu mewn dulliau di-drais.
Ers esgyn i swydd Cwnsler y Wladwriaeth, mae Aung San Suu Kyi wedi cael ei beirniadu'n hallt gan nifer o wledydd, sefydliadau a phobl adnabyddus am wneud dim i atal erledigaeth pobl Rohingya yn Nhalaith Rakhine, a gwrthod derbyn bod milwyr Myanmar wedi cyflawni sawl cyflafan.[11][12][13][14][15]
Bu'n aelod o IDEA Rhyngwladol, ARTICLE 19, The Elders, Clwb Madid, FRCSEd am rai blynyddoedd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.