![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b8/Lavrentiy_Beria_portrait.jpg/640px-Lavrentiy_Beria_portrait.jpg&w=640&q=50)
Lavrentiy Beria
From Wikipedia, the free encyclopedia
Bolsiefic o Georgia a gwleidydd Sofietaidd oedd Lavrentiy Pavlovich Beria; Rwseg: Lavréntiy Pávlovich Bériya,IPA: [ˈbʲerʲiə]; Georgeg, IPA: [bɛɾiɑ]; 29 Mawrth (17 Mawrth H.G) 1899– 23 Rhagfyr 1953. Bu'n Farsial yr Undeb Sofietaidd a gweinyddwr diogelwch y wladwriaeth, pennaeth diogelwch Sofietaidd, a phennaeth Comisiynydd Materion Mewnol y Bobl (NKVD) o dan Joseph Stalin yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac fe'i dyrchafwyd yn Ddirprwy Brif Weinidog o dan Stalin ym 1941. Ymunodd yn swyddogol â'r Politbiwro ym 1946.
Lavrentiy Beria | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 17 Mawrth 1899 (yn y Calendr Iwliaidd) ![]() Merkheuli ![]() |
Bu farw | 23 Rhagfyr 1953, 26 Mehefin 1953 ![]() Moscfa ![]() |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Gweriniaeth Ddemocrataidd Azerbaijan, Georgian Soviet Socialist Republic, Yr Undeb Sofietaidd ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | First Deputy Premier of the Soviet Union, member of the Presidium of the Supreme Soviet of the USSR, aelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd, aelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd, aelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd, First Secretary of the Georgian Communist Party ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, Plaid Lafur Cymdeithasol Democrataidd Rwsia (Bolsiefic) ![]() |
Priod | Nino Gegechkori ![]() |
Plant | Sergo Beria ![]() |
Gwobr/au | Arwr y Llafur Sosialaidd, Urdd Lenin, Urdd y Faner Goch, Order of Suvorov, 1st class, Jubilee Medal "XX Years of the Workers' and Peasants' Red Army", Medal "Am Amddiffyn Moscfa", Medal "Am Amddiffyn Stalingrad", Medal "Am Amddiffyn y Cawcasws", Medal "Am Fuddugoliaeth yr Almaen yn Rhyfel Gwladgarol 1941–1945, Medal Coffau 800fed Pen-blwydd Moscaw, Jubilee Medal "30 Years of the Soviet Army and Navy", Order of Sukhbaatar, Order of the Red Banner, Honorary officer of the State Security, Gwobr Wladwriaeth Stalin, gradd 1af, Order of the Republic, Honorary worker of the NKVD, Gwobr Wladol Stalin, Urdd Lenin, Urdd y Faner Goch, Order of the Red Banner of Labour of the Georgian SSR, Order of the Red Banner of Labour of the Azerbaijan SSR, Order of the Red Banner of Labour of the Armenian SSR, Orders and Medals of Soviet Republics ![]() |
llofnod | |
![]() |
Beria oedd y mwyaf dylanwadol ac ef a oroesodd hiraf o blith penaethiaid Heddlu Cudd Stalin, a chafodd ei dylanwad mwyaf yn ystod ac ar ôl y rhyfel. Yn dilyn goresgyniad y Sofietiaid o Ddwyrain Wlad Pwyl ym 1939, bu'n gyfrifol am drefnu y carthu megis cyflafan Coedwig Katyn ym 1940, pan laddwyd 22,000 o swyddogion o fyddin a deallusion Pwylaidd. Yn ddiweddarach bu'n trefnu alltudio gorfodol lleiafrifoedd cenedlaethol o'r Cawcasws fel pennaeth yr NKVD, gweithred a ddatganwyd yn hil-laddol gan wahanol ysgolheigion ac, o ran y Chechen, yn 2004 gan Senedd Ewrop.[1][2][3][4] Roedd yn gweinyddu adrannau helaeth o'r wladwriaeth Sofietaidd, ac yn gweithredu fel Marsial de facto yr Undeb Sofietaidd i reoli unedau maes NKVD oedd yn gyfrifol am filwyr cefn ac ysbio a gweithrediadau sabotage yn y tiroedd a feddiannwyd. Ef oedd yn gyfrifol am ehangu gwersylloedd llafur y Gwlag, ac roedd hefyd yn gyfrifol am oruchwylio'r cyfleusterau cadw cyfrinachol ar gyfer gwyddonwyr a pheirianwyr a elwir yn Sharashkas.
Yn dilyn y rhyfel, trefnodd Beria feddiannu'r sefydliadau gwladwriaethol yng nghanol a dwyrain Ewrop gan y comiwnyddion lleol. Uchafbwynt ei fedr yn goruchwylio oedd ei lwyddiant gyda prosiect bom atomig yr Undeb Sofietaidd. Rhoddodd Stalin flaenoriaeth lwyr i hwn, a chwblhawyd y prosiect mewn llai na phum mlynedd.
Yn dilyn marwolaeth Stalin ym mis Mawrth 1953, daeth Beria yn Ddirprwy Gadeirydd Cyntaf Cyngor y Gweinidogion a phennaeth y Weinyddiaeth Materion Mewnol. Yn y swyddogaeth ddeuol hon, ffurfiodd driawd gyda Georgy Malenkov a Vyacheslav Molotov a arweiniodd y wlad am ychydig yn dilyn Stalin. Trosglwyddwyd system y Gwlag i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a rhyddhawyd dros filiwn o garcharorion, er mai dim ond carcharorion a gafwyd yn euog o droseddau "anwleidyddol" a ryddhawyd. Arweiniodd yr amnest at gynnydd sylweddol mewn troseddu. Disodlwyd Beria gan Nikita Khrushchev, gyda chymorth cyn Farsial yr Undeb Sofietaidd Georgy Zhukov, ym mis Mehefin 1953. Ar ôl cael ei arestio, rhoddwyd ef ar brawf am deyrnfradwriaeth a throseddau eraill, ei ddedfrydu i farwolaeth, a'i ddienyddio ar 23 Rhagfyr 1953.