![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9a/L._S._Lowry_memorial%252C_Mottram_%25282%2529.jpg/640px-L._S._Lowry_memorial%252C_Mottram_%25282%2529.jpg&w=640&q=50)
L. S. Lowry
From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlunydd o Sais oedd Laurence Stephen Lowry (1 Tachwedd 1887 – 23 Chwefror 1976). Fe'i ganwyd yn Stretford, ger Manceinion. Darluniodd Pendlebury droeon, sef maestref pedair milltir i'r gogledd o ganol Manceinion; yma y gweithiodd ac yma y treuliodd 40 mlynedd o'i fywyd. Roedd Manceinion yn fwrlwm o ddiwydiant yng nghanol yr 20g ac nid oedd gan Lowry ofn ei ddarlunio, a'r bobl roedd yn eu plith.
L. S. Lowry | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1 Tachwedd 1887 ![]() Stretford, Old Trafford ![]() |
Bu farw | 23 Chwefror 1976 ![]() Glossop ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, arlunydd graffig, gwneuthurwr printiau, artist ![]() |
Adnabyddus am | Going to the Match ![]() |
Arddull | celf tirlun, peintio genre, portread ![]() |
Mudiad | celf naïf ![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/0/03/L.S._Lowry.jpg/320px-L.S._Lowry.jpg)
Datblygodd steil unigryw o beintio'r hyn a oedd o'i gwmpas: tirluniau yn llawn diwydiant a phobl a elwir gan eraill yn "bobl matsys" ("matchstick men"). Cyhoeddwyd y gweithiau "marionette" wedi ei farwolaeth.
Anwybyddai'r tywydd i raddau helaeth ac roedd ei bobl yn 'garactures' syml; ac oherwydd hyn galwyd ef gan rai yn naïf. [1] "Sunday painter", er nad yw hyn yn farn y rhan fwyaf o galeriau mwya'r byd.[2][3][4][5]
Arddangosir casgliad eitha swmpus o'i waith mewn galeri gyhoeddus o'i waith yn Salford Quays, galeri o'r enw "The Lowry".
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/4/49/Lowry%2C_Huddersfield.jpg/320px-Lowry%2C_Huddersfield.jpg)
Gwrthododd Lowry bum anrhydedd gan gynnwys ei wneud yn Farchog gan Frenhines Lloegr yn 1968; yn wir ef yw'r Prydeiniwr sydd wedi gwrthod y mwyaf o anrhydeddau.[6]
Ar 26 Mehefin 2013 agorwyd arddangosfa fawr o'i waith yn Tate Britain yn Llundain, y tro cyntaf idynt arddangos casgliad o'i waith.