oriel gelf yn Llundain From Wikipedia, the free encyclopedia
Oriel gelf yn Ninas Westminster, Llundain Fwyaf, yw Tate Britain, a elwid ynghynt yn Oriel y Tate. Mae'n gartref i'r casgliad cenedlaethol o gelf Prydeinig. Cangen o'r Oriel Genedlaethol oedd y Tate yn wreiddiol, yn arddangos gweithiau Prydeinig nad oedd yn bosibl eu harddangos yn Sgwâr Trafalgar oherwydd diffyg lle yno. Fe'i agorwyd ym 1897 mewn adeilad gan Sidney R. J. Smith, ar safle hen garchar Millbank. Mae'r oriel yn dwyn ei enw o Syr Henry Tate, masnachwr siwgr, a roddodd ei gasgliad i'r oriel. Enw swyddogol yr oriel yn wreiddiol oedd National Gallery (British Art). Ymhen dipyn fe ddaeth celf modern yn rhan bwysig o gasgliad y Tate, ond fe symudwyd y gweithiau yma i safle newydd, Tate Modern, yn 2000. Agorwyd estyniad gan y pensaer James Stirling ar gyfer gweithiau gan J. M. W. Turner ym 1987.
Math | oriel gelf, amgueddfa genedlaethol |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Agoriad swyddogol | 1897 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Orielau Tate |
Lleoliad | Millbank |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.491062°N 0.127789°W |
Cod OS | TQ3007178570 |
Cod post | SW1P 4RG |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Sefydlwydwyd gan | Henry Tate |
Manylion | |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.