Pogrom yn erbyn Iddewon ar draws y Reich Almaenaidd 9-10 Tachwedd 1938. From Wikipedia, the free encyclopedia
Pogrom gwrth-Iddewig oedd Kristallnacht (hefyd Reichspogromnacht) a ddigwyddodd ar 9 Tachwedd 1938 dan arweiniad y Natsïaid yn yr Almaen. Lladdwyd Iddewon, llosgwyd eu synagogau, ac ysbeiliwyd a dinistriwyd eu siopau. Ataliodd y llywodraeth Natsïaidd ryddhau'r heddlu a diffoddwyr tân i dewi'r cyrch treisiol torfol. Daeth y noson yn adnabyddus yn jargon Natsïaidd fel "noson grisial" (hynny yw, i ddynodi gwydr ffenestri siopau a thai Iddewon oedd wedi torri). Gelwir hefyd yn Novemberpogrome.[1] yn nodi dechrau'r Holocost, a hawliodd fywydau chwe miliwn o Iddewon yn Ewrop erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Enghraifft o'r canlynol | Pogrom |
---|---|
Dyddiad | Tachwedd 1938 |
Lleoliad | yr Almaen Natsïaidd |
Yn cynnwys | book burning |
Gwladwriaeth | yr Almaen Natsïaidd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhaliwyd Kristallnacht, ar y 9 a'r 10 Tachwedd 1938, ledled tiroedd y Drydedd Reich, gan ddinistrio symbolau Iddewig. Goresgynnwyd synagogau, busnesau a phreswylfeydd Iddewig a dinistriwyd eu heiddo. Cafodd miloedd eu harteithio, eu lladd neu eu halltudio i wersylloedd crynhoi. Y cyfiawnhad a ddefnyddiwyd gan y Natsïaid oedd llofruddiaeth Ernst vom Rath, diplomydd Almaenig ar y pryd ym Mharis, gan Herschel Grynszpan, Iddew o dras Pwyleg 17 oed oedd yn byw ym Mharis, ddeuddydd ynghynt. Roedd Grynszpan yn ymateb i benderfyniad y Natsïaid i alltudio ei deulu a miloedd o Iddewon eraill, o'r Almaen.[2]
Gweithredwyd Kristallnacht gan aelodau'r cyhoedd a grwpiau para-filwrol Natsiaidd a hynny ar draws tiroedd newydd y Drydedd Reich a oedd erbyn Tachwedd 1938 yn cynnwys Awstria a'r Sudetenland yn yr hyn oedd Tsiecoslofacia nes y flwyddyn honno.[3]
Roedd erledigaeth y Natsïaid o’r gymuned Iddewig Almaenig eisoes wedi dechrau ym mis Ebrill 1933, gyda’r alwad ar ddinasyddion i foicotio sefydliadau sy’n eiddo i Iddewon. Yn ddiweddarach, cawsant eu gwahardd rhag mynychu sefydliadau cyhoeddus, gan gynnwys ysbytai.
Yn hydref 1935, cyrhaeddodd erledigaeth Iddewon, a adnabyddir fel "gelynion yr Almaenwyr", uchafbwynt arall gyda'r hyn a elwir yn "Deddfwriaeth Hil Nuremberg". Er nad oedd yn ymddangos bod gweddill y byd yn cymryd yr hil-laddiad o ddifrif, gwelodd Hitler ei bolisi o lanhau ethnig yn cael ei gadarnhau.
Roedd cyfraith 15 Tachwedd 1935 wedi gwahardd priodasau ac yn condemnio cysylltiadau all-briodasol rhwng Iddewon a rhai nad ydynt yn Iddewon. Roedd yna hefyd waharddiad ar bobl nad oeddent yn Iddewon rhag gwneud gwaith tŷ i deuluoedd Iddewig ac ar Iddew yn chwifio baner y Natsïaid.
Ym 1938, cafodd plant Iddewig eu diarddel o ysgolion a phenderfynwyd diarddel yr holl siopau, diwydiannau a sefydliadau masnachol oedd yn eiddo i Iddewon. Ar 1 Ionawr 1939, roedd yr enw Israel ar gyfer dynion a Sarah ar gyfer merched yn orfodol i ddogfennau Iddewig.
Cred rhai haneswyr bod y llywodraeth Natsïaidd wedi bod yn ystyried achos arfaethedig o drais yn erbyn yr Iddewon a'u bod yn aros am esgus priodol; mae tystiolaeth o'r cynllunio hwn yn dyddio'n ôl i 1937.[4] Mewn cyfweliad ym 1997, honnodd yr hanesydd Almaenig, Hans Mommsen, mai un o gymhellion mawr y pogrom oedd awydd Gauleiters yr NSDAP i atafaelu eiddo a busnesau Iddewig.[5]
Dros gyfnod o 48 awr distrywiwyd 267 synagog a thros 7,000 o siopau Iddewig gyda'r awdurdodau Almaenig yn arsyllu ond heb stopio'r distrywio.[6][7] Lladdwyd dros 90 Iddew yn ôl amcangyfrif o'r cyfnod, ond mae dadansoddiad modern o ffynonellau ysgolheigaidd Almaeneg yn rhoi'r ffigwr yn llawer uwch; pan fydd marwolaethau o gamdriniaeth ar ôl arestio a hunanladdiadau dilynol yn cael eu cynnwys, mae'r doll marwolaeth yn cyrraedd y cannoedd, gyda Richard J. Evans yn amcangyfrif 638 o farwolaethau trwy hunanladdiad.[8] Dalfadwyd dros 30,000 o ddynion Iddewig dan orchmynion i gipio cymaint o ddynion ifainc Iddewig ag y gellid eu dal yn y carchardai. Fe'i halltudiwyd wedyn ymlaen i wersylloedd crynhoi.
Mae'r arfer o'r awdurdodau grym neu lywodraeth yn arsyllu ond gwrthod stopio trais yn nodweddiadol o bogromau fel gwelwyd yn Ymerodraeth Rwsia ar ddiwedd 19g a dechrau'r 20g a gweithrediadau'r Cannoedd Duon a chyrchoedd treisiol gwrth-Iddewig eraill.
Yn fuan wedi dioddef y pogromau, beiwyd yr Iddewon am greu'r trais ac fe'u dirwywyd 1 biliwn Reichsmark (oddeutu $400 miliwn yn arian 2019). Ar ben hynny, atalfaelodd y Llywodraeth holl ad-daliadau yswiriant ar gyfer eiddo a ddifrodwyd gan y trais.
Erbyn heddiw, ystyrir Kristallnacht fel man cychwyn yr Holocost.[9][10]
Roedd maint creulondeb pogrom 9 Tachwedd yn annisgrifiadwy. Roedd Hermann Göring yn galaru am "golledion materol mawr" 9 Tachwedd 1938, gan ychwanegu: "Byddai'n well gennyf pe baent wedi llofruddio 200 o Iddewon yn lle dinistrio cymaint o bethau gwerthfawr!"
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.