From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Karaez-Plougêr (Ffrangeg: Carhaix-Plouguer) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Ar Vouster, Plevin, Trefrin, Cléden-Poher, Kergloff, Motreff, Plounévézel, Saint-Hernin ac mae ganddi boblogaeth o tua 7,240 (1 Ionawr 2021).
Math | cymuned, anheddiad dynol |
---|---|
Poblogaeth | 7,240 |
Pennaeth llywodraeth | Christian Troadec, Christian Troadec |
Gefeilldref/i | Waldkappel |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 25.81 km² |
Uwch y môr | 104 metr |
Yn ffinio gyda | Ar Vouster, Plevin, Trefrin, Kledenn-Poc'hêr, Kerglof, Motrev, Plonevell, Sant-Hern |
Cyfesurynnau | 48.2758°N 3.5744°W |
Cod post | 29270 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Karaez-Plougêr |
Pennaeth y Llywodraeth | Christian Troadec, Christian Troadec |
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.
Mae pencadlys Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop (ELEN) yn y dre, yn adeilad Ti ar Vro, 6 plasenn Gwirioù Mab-den. Mae gan ELEN 174 o aelod-sefydliadau yn cynrychioli 50 o ieithoedd mewn 25 gwladwriaeth.[1]
Mae Karaez-Plougêr wedi'i gefeillio â:
Lansiodd y Karaez-Plougêr cynllun ieithyddol trwy Ya Brezhoneg ar 9 Ebrill, 2004. Mae gan y ddinas ysgol gynradd ac ysol uwchradd Diwan (sef yn yr unig Lycée Diwan yn Llydaw). Yn 2008, mynychodd 21.49% o blant ysgol gynradd ysgolion dwyieithog.[2]
Mae Karaez-Plougêr yn gartref i Gouel yn Kozh Erer; (Gŵyl yr Hen Erydr) sef ŵyl gerddorol fwyaf Ffrainc, gan ddenu mwy na 200,000 mynychwyr bob blwyddyn. Yn Hydref 2016 trefnodd yr ŵyl cyngerdd arbennig yn Central Park, Efrog Newydd mewn teyrnged i'r nifer o Lydäwyr a fewnfudodd i'r ddinas yn y 19g.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.