![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cb/Junts_per_Catalunya.svg/langcy-640px-Junts_per_Catalunya.svg.png&w=640&q=50)
Junts per Catalunya
From Wikipedia, the free encyclopedia
Llwyfan gwleidyddol yw Junts per Catalunya (Cymraeg: Gyda'n Gilydd Dros Gatalwnia, JuntsxCat) a ffurfiwyd o sawl plaid er mwyn ymladd Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2017, a alwyd (am y tro cyntaf) gan Brif Weinidog Sbaen. Arweinydd Junts per Catalunya yw Carles Puigdemont, sef Arlywydd Llywodraeth Catalwnia (y Generalitat of Catalonia).
Ffeithiau sydyn Arweinydd, Sefydlwyd ...
Junts per Catalunya | |
---|---|
![]() | |
Arweinydd | Carles Puigdemont |
Sefydlwyd | 13 Tachwedd 2017 |
Unwyd gyda | Plaid Ewropeaidd Democrataidd Catalwnia (PDeCAT) Aelodau Annibynnol CDC[1] |
Rhestr o idiolegau | Rhyddfrydiaeth Cenedlaetholdeb Catalanaidd[2] Annibyniaeth i Gatalwnia[2] Gweriniaetholdeb |
Llywodraeth Catalwnia | 34 / 135 |
Gwefan | |
https://juntspercatalunya.cat/ |
Cau
Ffurfiwyd y blaid hon o'r canlynol:
- Plaid Ewropeaidd Democrataidd Catalwnia (PDeCAT)
- Aelodau Annibynnol
- Convergència Democràtica de Catalunya (CDC) (a olynodd y Convergència Democràtica de Catalunya)[1][3][4]
Asgwrn cefn y blaid oedd PDeCAT a rhestr a luniwyd gan Puigdemont o blith y gymdeithas ddinesig, yn hytrach na phlaid.[5][6][7]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/99/Retrat_oficial_del_President_Carles_Puigdemont_%28cropped%29.jpg/640px-Retrat_oficial_del_President_Carles_Puigdemont_%28cropped%29.jpg)