etholiad cenedlaethol a gynhaliwyd 21 Rhagfyr 2017 From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhaliwyd Etholiad Catalwnia, 2017 ar 21 Rhagfyr 2017, sef 12fed Llywodraeth y wlad, gan ddilyn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015. Enillodd y tair plaid dros-annibyniaeth fwyafrif y seddau: 70 allan o 135 sedd.
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pob un o'r 135 sedd yn Senedd Catalwnia 68 sedd sydd angen i gael mwyafrif | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofrestrwyd | 5,553,983 0.8%[1] | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Nifer a bleidleisiodd | 4,388,074 (79.0%) 4.1 pp = | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Canlyniad | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Yn wahanol i'r etholiadau o'i blaen, galwyd yr etholiad gan Lywodraeth Sbaen, wedi iddynt ddiddymu Llywodraeth Catalwnia ar 27 Hydref 2017, yn dilyn Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 pan bleidleisiodd 91.9% dros annibyniaeth. Galwyd yr etholiad gan Sbaen. Credai Brif Weinidog Sbaen Mariano Rajoy Breyy byddai'r mwyafrif o'r etholwyr yn pleidleisio dros bleidiau a oedd yn gwrthwynebu annibyniaeth, ond nid felly y bu, ac roedd y canlyniad yn embaras mawr iddo. Collodd plaid Rajoy 7 sedd, gan ddal eu gafael ar ddim ond tair sedd.
Ar ddiwrnod yr etholiad, a'r cyfnod a oedd yn arwain ato, roedd nifer o'r ymgeiswyr dros-annibyniaeth naill ai ar ffo yng Ngwlad Belg neu wedi eu carcharu gan Brif Lys Sbaen. Carcharwyd wyth o'r arweinyddion, gan gynnwys y cyn Is-Lywydd (ac arweinydd yr ERC), Oriol Junqueras heb fechniaeth; roedd Gwarant Ewropeaidd i Arestio nifer o arweinyddion a oedd wedi ffoi hefyd wedi'u cyhoeddi gan Sbaen, gyda Puigdemont a phedwar o'i Gabined yn ymgyrchu naill ai o garchar neu o wlad arall.
Wedi i Lywodraeth Catalwnia, ar 27 Hydref 2017, gyhoeddi eu bod yn sefydlu Gweriniaeth Catalwnia, ymatebodd Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, ei fod yn diddymu'r Llywodraeth ac yn galw Etholiad Cyffredinol - gyda'r bwriad o ethol rhagor o ASau a oedd o blaid cadw Catalwnia o fewn ffiniau presennol Sbaen. Cyhoeddodd Sbaen hefyd y byddent yn gwneud popeth i gesio 'dychwelyd' Catalwnia yn ôl i'w corlan, fel cymuned ymreolaethol, a dechreuwyd gweithredu cymal 155 o Gyfansoddiad Sbaen a roddai'r hawl iddynt wneud 'unrhyw beth sydd ei angen' i uno Sbaen.
Trafododd pleidiau Catalwnia a ddylent gymryd rhan yn yr etholiad neu ei anwybyddu.[2][3][4]
Ar 5 Tachwedd 2017 etholodd Plaid Democratiaeth Ewropeaidd Catalwnia (PDeCAT) mai cyn-Lywydd y wlad, Carles Puigdemont, fyddai eu hymgeisydd, o Wlad Belg, ble roedd yn alltud - a hynny dan y faner 'Junts per Catalunya'.[5][6] Ymunodd PDeCAT gyda nifer o ASau Annibynnol i ffurfio plaid newydd o'r enw JuntsxCat (Gyda'n Gilydd Dros Catalwnia) gan alw ar amnest ar gyfer y "carcharorion gwleidyddol", sef prif swyddogion Llywodraeth Catalwnia a garcharwyd gan Sbaen.[7]
Penderfynodd Chwith Weriniaethol Catalwnia neu'r ERC dros beidio ag adnewyddu'r clymblaid Junts pel Sí.[8] Cyhoeddodd y Candidatura d'Unitat Popular, (CUP) fod yr etholiad yn "anghyfreithiol" ac na fydai'n ymladd am seddau.
Unodd pedair plaid o dan yr enw Gweriniaeth Chwith Catalwnia (neu ERC–CatSí).
Cytuno gydag annibyniaeth |
Plaid / Clymblaid | Cytuno gyda Refferendwm | Meddylfryd unochrog (Unilateralism) | Cytuno gyda rheolaeth uniongyrchol o Fadrid | Cyfeiriadaeth |
---|---|---|---|---|---|
Ydy | Junts per Catalunya (JuntsxCat) | [9] | |||
Gweriniaeth Chwith Catalwnia-Catalwnia Ie (ERC–CatSí) | [10] | ||||
Candidatura d'Unitat Popular–Crida Constituent (CUP) | [11] | ||||
Na | Ciudadanos (Cs) | [12] | |||
Sosialwyr Catalwnia (PSC–PSOE) | [13] | ||||
Plaid y Bobl (PP) | [14] | ||||
Niwtral | Catalunya en Comú–Podem (CatComú–Podem) | [15][16] |
Pleidiau a chlymbleidiau | Cyfuniad | Ideoleg | Ymgeisydd | |
---|---|---|---|---|
Junts per Catalunya (JuntsxCat) |
|
Annibyniaeth | Carles Puigdemont | |
Ciudadanos (Cs) | Rhyddfrydiaeth | Inés Arrimadas | ||
Gweriniaeth Chwith Catalwnia (ERC–CatSí) | Asgell chwith annibynnol | Oriol Junqueras | ||
Sosialwyr Catalwnia (PSC–PSOE) | Cymdeithas Ddemocrataidd | Miquel Iceta | ||
Catalunya en Comú (CatComú–Podem) |
|
Eco-sosialaeth | Xavier Domènech | |
Partit Popular de Catalunya (PP) | Rhyddfrydiaeth-geidwadol | Xavier García Albiol | ||
Candidatura d'Unitat Popular–Crida Constituent (CUP) | Gwrth-gyfalafiaeth/Catalwnia Annibynnol | Carles Riera |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.