Julian Assange
From Wikipedia, the free encyclopedia
Newyddiadurwr a rhaglennydd meddalwedd Awstraliaidd yw Julian Assange (ganed 3 Gorffennaf 1971, Townsville, Queensland, Awstralia), sy'n gyfarwyddwr WikiLeaks, gwefan sy'n cyhoeddi gwybodaeth gudd.
Julian Assange | |
---|---|
Ffugenw | Proff, Mendax |
Ganwyd | Julian Paul Hawkins 3 Gorffennaf 1971 Townsville |
Man preswyl | Embassy of Ecuador, London, Magnetic Island, Melbourne |
Dinasyddiaeth | Awstralia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | Internet activist, hacker, rhaglennwr, gwyddonydd cyfrifiadurol, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr teledu, ysgrifennwr, newyddiadurwr, cyflwynydd, person busnes, Canu cloch |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | WikiLeaks Party, Annibynnwr |
Tad | John Shipton |
Mam | Christine Ann Assange |
Priod | Stella Assange |
Gwobr/au | Sam Adams Award, Gwobr Dewrder y Celfyddydau, Gold medal for Peace with Justice, Index Award, Martha Gellhorn Prize for Journalism, Stuttgart Peace Prize, Gwobr Heddwch Sydney, Walkley Awards, Günter Walraff award, Serena Shim Award, Ossietzky Prize, Premis Dignitat |
llofnod | |
Sefydlodd Assange wefan WikiLeaks yn 2006 ac mae'n aelod o fwrdd ymgynghorol y wefan. Fel prif lais cyhoeddus y wefan, mae Assange wedi cael sylw rhyngwladol, yn enwedig ar ôl i'r wefan gyhoeddi cyfres o ddogfennau milwrol Americanaidd am y rhyfeloedd yn Irac ac yn Affganistan, gan gynnwys gwybodaeth a roddwyd iddynt gan Chelsea Manning. Ers hynny ymchwiliodd Unol Daleithiau America i'w waith a chafwyd honiad gan ddwy ferch o Sweden yn ei erbyn. O ganlyniad, ers Mehefin 2012, mae wedi derbyn lloches wleidyddol yn Llysgenhadaeth Ecwador, gyda heddlu Lloegr yn cadw gwyliadwraeth ar yr adeilad.[1] Ar 19 Mai 2017, gollyngodd prif erlynydd Sweden y cyhoeddiadau yn ei erbyn.[2]
Ar 11 Ebrill 2019, tynnwyd lloches Assange yn ôl yn dilyn cyfres o anghydfodau gydag awdurdodau Ecwador. Gwahoddwyd yr heddlu i'r llysgenhadaeth yr un diwrnod, ac fe'i harestiwyd. Dedfrydwyd i 50 wythnos yn y carchar (allan o uchaf gosb o flwyddyn) am dorri mechnïaeth yn 2012, ac mae cyfreithiwr yn ceisio cael Sweden i ail agor ei ymchwiliad mewn i honiadau o drais rhywiol.[3]
Mae Assange wedi byw mewn sawl gwlad. Yn achlysurol, mae'n ysgrifennu am faterion sy'n ymwneud â rhyddid y wasg, sensoriaeth, a newyddiaduraeth ymchwiliol, ac mae wedi ennill sawl gwobr newyddiadurol.