Johnston, Sir Benfro
pentref yn Sir Benfro / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Johnston.[1] Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif i'r de-orllewin o dref Hwlffordd ar y briffordd A4076 i Aberdaugleddau. Mae'r eglwys, a gysegrwyd i Sant Pedr, yn dyddio o'r canol oesoedd.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Hwlffordd |
Cyfesurynnau | 51.754°N 4.998°W |
Cod SYG | W04000944 |
Cod OS | SM932104 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | Henry Tufnell (Llafur) |
Cau
Ceir yma orsaf ar gangen Aberdaugleddau o Reilffordd Gorllewin Cymru. Ar un adeg roedd lein fach yn cysylltu Johnstown a Hook ar lan Afon Cleddau Wen, lle roedd cei.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,778.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[3]