![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a8/Sir_John_Salisbury_by_Moses_Griffith_02197.jpg/640px-Sir_John_Salisbury_by_Moses_Griffith_02197.jpg&w=640&q=50)
John Salusbury (m. 1578)
o Blas Lleweni, ger Dinbych (? -1578) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tirfeddiannwr Cymreig, swyddog sirol, un o deulu pwerus y Salbriaid, ac aelod seneddol oedd John Salusbury (cyn 1520 ā 1578), Lleweni, Sir Ddinbych.[1]
John Salusbury | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1520 ![]() Lleweni ![]() |
Bu farw | 18 Mawrth 1578 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd, tirfeddiannwr ![]() |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1545-47, Aelod o Senedd1547-1552, Aelod o Senedd 1553, Aelod o Senedd Ebrill 1554, Aelod o Senedd 1554-55, Aelod o Senedd 1558 ![]() |
Tad | Roger Salusbury ![]() |
Mam | Elizabeth Pylston (Puleston) ![]() |
Plant | Roger Salusbury, John Salusbury, Jane Salesbury, Roger Salusbury ![]() |
Ef oedd mab hynaf Syr Roger Salusbury, Plas Lleweni. Dilynodd ei dad yn 1530 a gwnaed ef yn farchog ar 22 Chwefror 1547. Ni cheir cyfeiriad ato yn Gwyddoniadur Cymru, ond ceir gwybodaeth yn y Bywgraffiadur Cymreig.
Penodwyd Salusbury gan y Brenin Harri VIII yn Siryf Sir Ddinbych rhwng 1541 ac 1542 ac yn Siryf Sir y Fflint o 1548 hyd at 1549. Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch dros Sir Ddinbych o 1543 hyd ei farwolaeth ac fel Custos Rotulorum Sir Ddinbych o 1558 hyd 1564. Bu eilwaith yn Siryf Sir Ddinbych yn 1574-75.
Etholwyd Salusbury yn Aelod (AS) o Senedd Lloegr dros Sir Ddinbych yn 1545, 1547, Hydref 1553, Ebrill 1554, Tachwedd 1554 ac yn 1558. Pan gododd helynt rhwng iarll Leicester ac ysweiniaid Gogledd Cymru gofalodd Salusbury gadw ar yr ochr iawn i'r iarll a chadwodd ei ben.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b2/Llyweni_Hall_02203.jpg/640px-Llyweni_Hall_02203.jpg)