plasty From Wikipedia, the free encyclopedia
Plasty yn Sir Ddinbych yw Lleweni neu Blas Lleweni. Fe'i lleolwyd tua 3 km i'r gogledd-ddwyrain o dref Dinbych, Sir Ddinbych ar lan Afon Clwyd. Bu'n gartref i aelodau teulu'r Salusbury (weithiau: 'Salbriaid') o tua 1066 hyd 1748. Cyn hynny, Llysmarchweithian oedd enw'r plasdy a'i berchennog oedd Marchweithian.
Math | plasty gwledig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Stad Lleweni |
Lleoliad | Dinbych |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 26 metr |
Cyfesurynnau | 53.2057°N 3.37591°W |
Perchnogaeth | teulu Salusbury |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Yn ôl Hester Piozzi (1741 - 1821) roedd dros 200 o ystafelloedd yn y plas ar un adeg.
Dymchwelwyd rhannau o Blas Lleweni gan William Lewis Hughes er mwyn atgyweirio plasdy arall a oedd ganddo, sef Neuadd Cinmel (Sylwer: nid Parc Cinmel).
Ar un cyfnod roedd yma ddiwydiant cannu, sef gwynnu dillad mewn bleach neu gemegolyn tebyg.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.