From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd John Michael Landy AC CVO MBE AC OLY (12 Ebrill 1930 – 24 Chwefror 2022) yn athletwr a llywodraethwr talaith o Awstralia. Roedd yr ail ddyn i dorri'r rhwystr pedair munud o hyd yn y rhediad milltir. Daliodd recordiau'r byd ar gyfer y rhediad 1500-metr a'r ras filltir.Rhwng 2001 a 2006, ef oedd y 26ain Llywodraethwr y talaith Victoria.
John Landy | |
---|---|
Ganwyd | John Michael Landy 12 Ebrill 1930 Hawthorn |
Bu farw | 24 Chwefror 2022 Castlemaine |
Man preswyl | Melbourne |
Dinasyddiaeth | Awstralia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd, peiriannydd, rhedwr pellter canol, gwleidydd |
Swydd | Governor of Victoria |
Taldra | 182 centimetr |
Pwysau | 69 cilogram |
Gwobr/au | MBE, Commander of the Royal Victorian Order, Trysor byw genedlaethol Awstraliaid, Athletics Australia Hall of Fame, Australian Sports Medal, Medal Canmlwyddiant, Fellow of the Australian Academy of Technology and Engineering, Cydymaith Urdd Awstralia |
Chwaraeon |
Cafodd Landy ei eni ym Melbourne. [1] Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Ramadeg Goffa Malvern ac Ysgol Ramadeg Geelong. Graddiodd o Brifysgol Melbourne yn 1954, fel Baglor mewn Gwyddor Amaethyddol.
Daeth yn aelod o Chlwb Athletau Urdd Geelong ers 1949; roedd yn aelod o dîm Olympaidd Awstralia yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1952 yn Helsinki a Gemau Olympaidd yr Haf 1956 ym Melbourne, gan gymryd y Llw Olympaidd yng Ngemau Olympaidd 1956. [2] Ar 21 Mehefin 1954, mewn cyfarfod rhyngwladol yn Turku, y Ffindir, daeth e'r ail ddyn, ar ôl Roger Bannister, i gyflawni milltir is-4 munud, gan gofnodi record byd o 3:57.9, a gadarnhawyd gan yr IAAF fel 3 :58.0. [3]
Ar 1 Ionawr 2001, daeth Landy Llywodraethwr Victoria, gan olynu Syr James Gobbo . [4] Ymddeolodd fel llywodraethwr ar 7 Ebrill 2006, ac olynwyd ef gan David de Kretser.[5] Ym mis olaf ei dymor fel llywodraethwr, Landy oedd y rhedwr olaf yn ras gyfnewid Baton y Frenhines yn ystod seremoni agoriadol Gemau'r Gymanwlad 2006 yn stadiwm Maes Criced Melbourne, gan gyflwyno'r baton i'r Frenhines Elisabeth II o'r Deyrnas Unedig. [6]
Bu farw Landy yn ei gartref yn Castlemaine, Victoria, yn 91 oed. [7] [8] Roedd ganddo glefyd Parkinson am gyfnod o amser. [9]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.