gwleidydd o Gymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Fonesig Joan Mary Ruddock, DBE (née. Anthony; geni 28 Rhagfyr 1943) yn wleidydd Plaid Lafur Prydeinig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol (AS) dros Lewisham Deptford o 1987 i 2015. Roedd Ruddock yn Weinidog Gwladol dros Ynni yn yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd tan 11 Mai 2010. Neilltuodd o'r Senedd ar adeg Etholiad Cyffredinol 2015.
Joan Ruddock | |
---|---|
Ganwyd | 28 Rhagfyr 1943 Pont-y-pŵl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Priod | Frank Doran |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
Gwefan | http://www.joanruddock.org/ |
Addysgwyd Ruddock yn ysgol ramadeg y Merched Pont-y-pŵl ac yn Imperial College Llundain lle bu'n astudio Botaneg a Chemeg. Cyn iddi gael ei ethol i'r Senedd, roedd hi'n gadeirydd yr Ymgyrch Dros Ddiarfogi Niwclear (CND). Rhoddodd gorau i gadeirio CND ym 1985. [1]
Safodd Ruddock fel ymgeisydd Llafur am sedd Geidwadol ddiogel Newbury ym 1979, gan ddod yn drydydd. Fe'i hetholwyd i Lewisham Deptford ym 1987, gan olynu John Silkin. Yn wreiddiol roedd hi'n aelod o'r Campaign Group grŵp o Aelodau Seneddol asgell chwith Llafur ond ymddiswyddodd ym 1988 mewn protestio yn erbyn penderfyniad Tony Benn i herio Neil Kinnock am yr arweinyddiaeth.
Yn ystod llywodraeth Tony Blair, gwasanaethodd am gyfnod byr fel y Gweinidog dros Fenywod. Dychwelodd i'r llywodraeth pan benododd Gordon Brown hi'n ei Is Ysgrifennydd Seneddol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ym mis Mehefin 2007 gyda chyfrifoldeb dros fioamrywiaeth, addasu ar gyfer newid hinsawdd, gwastraff a choedwigaeth ddomestig. Ym mis Hydref 2008 fe'i trosglwyddwyd i'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd a oedd newydd ei chreu, gan barhau yn ei rôl flaenorol. Yn adrefnu Mehefin 2009, fe'i dyrchafwyd i lefel Gweinidog Gwladol, gyda chyfrifoldeb am bolisi ynni, gan gadw'r swydd hyd ddymchwel y Llywodraeth Lafur yn 2010.
Yn ystod ei hamser yn y senedd, roedd Ruddock yn gyfrifol am gyflwyno dau bil aelod preifat yn llwyddiannus ar dipio anghyfreithlon a sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu ailgylchu ar garreg y drws. [1]
Mae'n Gymrawd Anrhydeddus o Goleg Goldsmiths, Prifysgol Llundain, [2] yn Gymrawd Anrhydeddus o Gonservatoire Cerdd a Dawns Trinity Laban ac yn aelod o fwrdd llywodraethwyr Trinity Laban. [3]
Fe'i penodwyd yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ar 9 Mehefin 2010. [4]Fe'i dyrchafwyd yn Fonesig yn Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE) yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2012 am wasanaethau cyhoeddus a gwleidyddol. [5]
Mae Ruddock wedi bod yn briod ddwywaith. Priododd ei gŵr cyntaf, yr Athro Keith Ruddock, ym 1963, [6]bu farw ef mewn damwain traffig ym 1996; roedd y cwpl wedi gwahanu rhai blynyddoedd ynghynt. [7] Ei ail briodas oedd [6] i'r gyn AS Llafur dros Ogledd Aberdeen, Frank Doran o 2010 hyd ei farwolaeth yn 2017.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.