![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/47/TheJewishNationalInstitutionsHouseJerusalemMay062023_02.jpg/640px-TheJewishNationalInstitutionsHouseJerusalemMay062023_02.jpg&w=640&q=50)
Jewish Agency for Israel
Sefydliad Seinoistaidd a greuwyd yn 1929 er mwyn hyrwyddo mewnfudo, gwladychu, ymgartrefu, a diwylliant Iddewig a Seinoistaidd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Yr Asiantaeth Iddewig ar gyfer Israel, yn swyddogol Jewish Agency for Israel neu, ar lafar, 'mond Jewish Agency (Hebraeg: הסוכנות היהודית לארץ ישראל, yr wyddor Ladin: HaSochnut HaYehudit L'Eretz Yisra'el) a elwid gynt yn yr Asiantaeth Iddewig dros Balestina,[1] yw'r sefydliad Iddewig di-broffil yn y byd. Fe'i sefydlwyd ym 1929 fel cangen weithredol Sefydliad Seionyddol y Byd (World Zionist Organisation, WZO). Cenhadaeth ddatganedig yr Asiantaeth yw “sicrhau bod pob person Iddewig yn teimlo cwlwm na ellir ei dorri i’w gilydd ac i Israel ni waeth ble maent yn byw yn y byd, fel y gallant barhau i chwarae eu rhan hanfodol yn ein stori Iddewig barhaus.”[2]
![]() | |
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad di-elw ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1929 ![]() |
Lleoliad yr archif | Central Zionist Archives ![]() |
Rhagflaenydd | Palestine Office ![]() |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad 501(c)(3) ![]() |
Pencadlys | Jeriwsalem ![]() |
Gwefan | http://www.jewishagency.org/ ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cd/Jewish_Agency_Logo%2C_Star_of_David_%283251475890%29.jpg/640px-Jewish_Agency_Logo%2C_Star_of_David_%283251475890%29.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9d/PikiWiki_Israel_44384_Haim_Weizman.jpg/640px-PikiWiki_Israel_44384_Haim_Weizman.jpg)
Mae'n fwyaf adnabyddus fel y prif sefydliad sy'n meithrin mewnfudo Iddewon mewn alltud i Wlad Israel (a elwir yn aliyah) ac yn goruchwylio eu hintegreiddio â Gwladwriaeth Israel.[3] Ers 1948, mae'r Asiantaeth Iddewig wedi dod â 3 miliwn o fewnfudwyr i Israel,[4] ac yn cynnig tai trosiannol iddynt mewn "canolfannau amsugno" ledled y wlad.[5]
Chwaraeodd yr Asiantaeth Iddewig ran ganolog yn y gwaith o sefydlu a datblygu Gwladwriaeth Israel. Gwasanaethodd David Ben-Gurion fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith o 1935, ac yn rhinwedd y swydd hon ar 14 Mai 1948, cyhoeddodd annibyniaeth Israel,[6] ac wedi hynny gwasanaethodd fel prif weinidog cyntaf Israel. Yn y blynyddoedd cyn sefydlu Israel, bu'r Asiantaeth Iddewig yn goruchwylio sefydlu tua 1,000 o drefi a phentrefi ym Mandad Prydeinig Palestina. Mae'r sefydliad yn gwasanaethu fel y prif gyswllt rhwng Israel a chymunedau Iddewig ar draws y byd.[7][8]
Yn ôl y gyfraith, sefydliad parastataidd yw'r Asiantaeth Iddewig, ond nid yw'n derbyn cyllid craidd gan lywodraeth Israel.[9] Ariennir yr Asiantaeth Iddewig gan Ffederasiynau Iddewig Gogledd America (JFNA), Keren Hayesod, prif gymunedau a ffederasiynau Iddewig, a sefydliadau a rhoddwyr o Israel a ledled y byd.[10] Yn 2008, enillodd yr Asiantaeth Iddewig Wobr Israel am ei chyfraniad hanesyddol i Israel ac i'r gymuned Iddewig ledled y byd.[11]