![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3b/Epstein_2013_mugshot.jpg/640px-Epstein_2013_mugshot.jpg&w=640&q=50)
Jeffrey Epstein
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ariannwr Americanaidd oedd Jeffrey Edward Epstein (20 Ionawr 1953 – 10 Awst 2019) a gafwyd yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant.[1][2] Dechreuodd ei yrfa yn y byd ariannol gyda'r banc buddsoddi Bear Stearns, cyn iddo sefydlu cwmni ei hunan, J. Epstein & Co. Cafwyd yn euog o droseddau rhyw yn 2008 am reoli criw o buteiniaid dan oed a gawsant eu gorfodi i gael cyfathrach rywiol â phobl uchel eu statws yng nghylchoedd arianneg, gwleidyddiaeth, a diwylliant.[3]
Jeffrey Epstein | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Jeffrey Edward Epstein ![]() 20 Ionawr 1953 ![]() Brooklyn ![]() |
Bu farw | 10 Awst 2019 ![]() o crogi, strangling ![]() Metropolitan Correctional Center, New York City, Dinas Efrog Newydd ![]() |
Man preswyl | Little Saint James, Palm Beach, Florida, Herbert N. Straus House ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | person busnes, athro, banciwr ![]() |
Cyflogwr |
|
Tad | Seymour G. Epstein ![]() |
Mam | Pauline Epstein ![]() |
Partner | Ghislaine Maxwell ![]() |
llofnod | |
![]() |
Dechreuodd ymchwiliad gan heddlu Palm Beach, Fflorida, yn 2005 wedi i Epstein gael ei gyhuddo o gyffwrdd merch 14 oed mewn modd rhywiol. Fe blediodd yn euog ac yn 2008 fe'i dyfarnwyd yn euog gan lys taleithiol yn Fflorida o lithio putain ac o gaffael merch dan 18 oed i buteinio. Yn sgil bargen ei ble, bwriodd 13 mis dan glo gyda chaniatâd i adael y ddalfa i weithio. Cydnabuwyd 36 o ferched, yr ieuangaf ohonynt yn 14 oed, yn ddioddefwyr yn ôl yr awdurdodau ffederal.[4][5] Yn ogystal, mae Epstein wedi ei gyhuddo gan nifer o unigolion o ddal menywod a merched dan oed yn gaethweision rhyw.[6]
Arestiwyd Epstein unwaith eto ar 6 Gorffennaf 2019 ar gyhuddiadau ffederal o fasnachu plant dan oed am ryw yn nhaleithiau Fflorida ac Efrog Newydd.[7][8]
Bu farw ar 10 Awst 2019, wedi crogi ei hunan yn ei gell mewn carchar ym Manhattan, yn ôl y sôn.[9][10][11] Tair wythnos ynghynt, cafwyd hyd i Epstein yn anymwybodol yn y ddalfa gydag anafiadau i'w wddf, a phenderfynwyd ei wylio'n gyson am chwe diwrnod i atal hunanladdiad. Daeth y cyfnod hwnnw o wyliadwriaeth i ben deuddeng niwrnod cyn ei farwolaeth.[12] Wedi awtopsi ar 11 Awst, datganodd swyddfa archwiliwr meddygol Dinas Efrog Newydd bod angen rhagor o wybodaeth cyn pennu achos y farwolaeth, ond hunanladdiad ydy'r rhagdybiaeth.[13] Mynegodd nifer o bobl ddrwgdybiaeth o'r stori honno, a bu ymchwiliad ffederal ar y gweill i farwolaeth Epstein.[14][15]
Ar 19 Tachwedd 2019 cyhuddwyd y gwarchodwyr carchar Michael Thomas a Tova Noel, gan erlynwyr ffederal yn Efrog Newydd, o ffugio cofnodion a chynllwynio. Roedd recordiad fideo o'r carchar yn datgelu fod Epstein wedi bod yn ei gell am wyth awr heb neb yn ei wylio, yn groes i reolau, cyn cael ei ganfod yn farw.[16][17][18]