From Wikipedia, the free encyclopedia
Banc buddsoddi a chwmni brocer a masnachu gwarantau oedd The Bear Stearns Companies, Inc. neu Bear Stearns ar lafar. Sefydlwyd yn Ninas Efrog Newydd ym 1923 gan Joseph Ainslie Bear, Robert B. Stearns, a Harold C. Mayer. Trodd yn gwmni cyhoeddus yn 1985 ac erbyn yr 21g Bear Stearns oedd un o brif gwmnïau ariannol y byd. Cyn iddo fethu, prif feysydd cwmni oedd marchnadoedd cyfalaf, bancio buddsoddi, rheolaeth cyfoeth, a gwasanaethau clirio, ac yn un o euogion yr argyfwng morgeisiau Americanaidd yn y 2000au. Aeth i'r wal yn 2008 yn ystod yr argyfwng ariannol byd-eang a chafodd ei werthu i JPMorgan Chase.
Math o fusnes | Cyhoeddus |
---|---|
Byrfodd stoc | NYSE: BSC |
Diwydiant | Gwasanaethau buddsoddi |
Tynged | caffaelwyd gan JPMorgan Chase |
Sefydlwyd | 1 Mai 1923 |
Diddymwyd | Mawrth 2008 |
Pencadlys | Dinas Efrog Newydd |
Pobl allweddol | Alan Schwartz, cyn Brif Weithredwr James Cayne, cyn Gadeirydd a Phrif Weithredwr |
Cynnyrch | Gwasanaethau ariannol Bancio buddsoddi Rheolaeth buddsoddiadau |
Rhiant-gwmni | JPMorgan Chase |
bear.com |
Yn y cyfnod cyn ei fethiant, bu Bear Stearns yn ymwneud yn fwyfwy â gwaranteiddio, a chyhoeddwyd niferoedd mawr o warantau ased, yn enwedig morgeisiau.[1] Wrth i golledion buddsoddwyr yn y marchnadoedd hynny gynyddu yn 2006 a 2007, ni cheisiodd y cwmni rwystro ei ran yn yr argyfwng morgeisiau. Ym Mawrth 2008, benthycwyd arian i Bear Stearns gan Fanc y Gronfa Ffederal yn Efrog Newydd mewn ymgais i atal cwymp y cwmni. Nid oedd modd achub Bear Stearns a fe'i gwerthwyd i JPMorgan Chase am $10 y cyfranddaliad.[2] Yn Ionawr 2010, rhoddai JPMorgan y gorau i ddefnyddio enw Bear Stearns.[3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.