arlunydd Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlunydd o Gymro yw Ivor Davies MBE (ganwyd Tachwedd 1935). Ar hyn o bryd mae'n byw ac yn gweithio ym Mhenarth.[1]
Ganed Davies yn Nhreharris. Yn fachgen aeth Davies i Ysgol Sir Penarth. Astudiodd yng Ngholeg Celf Caerdydd a Choleg Celf Abertawe rhwng 1952 a 1957, ac yna o 1959 i 1961 astudiodd ym Mhrifysgol Lausanne yn y Swistir. Dechreuodd ddysgu ym Mhrifysgol Cymru cyn symud ymlaen i Brifysgol Caeredin, lle cwblhaodd PhD ar yr avant-garde yn Rwsia.[2] Ymddeolodd Davies o ddysgu yng Ngholeg Addysg Uwch Gwent ym 1988.[1][3][4]
Etholwyd ef yn is-lywydd yr Academi Frenhinol Cymreig yn 1995 [3] ac mae'n aelod o'r Grŵp Cymreig.[5] Cafodd MBE yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2007.[6] Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2002 enillodd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain.[7][8][9]
Mae Davies yn angerddol dros ddiwylliant, iaith a gwleidyddiaeth Cymru, sy'n ysbrydoli ei waith celf. Ers nifer o flynyddoedd mae wedi noddi Gwobr Ifor Davies yn y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, am waith celf "sy'n cyfleu ysbryd gweithredoedd yn y frwydr dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth yng Nghymru".[10]
Roedd gweithiau cynnar Davies yn y 1960au yn defnyddio ffrwydron fel mynegiant o natur ddinistriol cymdeithas. Cymerodd Davies ran yn Symposiwm Dinistrio mewn Celf yn Llundain yn 1966.[1][3][4] Mae ei waith mwy diweddar yn cynnwys paentio a gosodiadau; mae hefyd wedi dylunio a gosod brithwaith o Ddewi Sant yn Eglwys Gadeiriol Westminster.[11][12]
Agorodd arddangosfa yn edrych yn ôl ei waith o’r 1940au ymlaen, Ivor Davies: Silent Explosion, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2015. Hon oedd yr arddangosfa fwyaf, a oedd yn ymroddedig i waith un artist cyfoes, a gynhaliwyd erioed yng Nghymru.[13]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.