From Wikipedia, the free encyclopedia
Arddangosfa o gelf ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru ydy'r Lle Celf.[1] Ceir arddangosfa o waith celf wedi'i drefnu mewn partneriaeth rhwng yr eisteddfod a Chyngor Celfyddydau Cymru. Yn ôl Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod, Robyn Tomos, “Yn ogystal â chynnig llwyfan genedlaethol i artistiaid ifainc, mae’n hyrwyddo artistiaid sefydledig hefyd. Yn ogystal, mae gan yr Eisteddfod Genedlaethol ymrwymiad i annog gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o’r celfyddydau gweledol yng Nghymru.”
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010, cynhaliwyd Y Lle Celf mewn pydew dwfn hen waith dur.[2]
Enillodd Bedwyr Williams y 'trebl' yn 2011, drwy ennill Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, Gwobr Ifor Davies a Gwobr Josef Herman.[3]
Yn 2012, bu rhaid i’r Eisteddfod Genedlaethol roi gorchudd tros bedwar o luniau yn y Lle Celf am eu bod yn dangos lluniau o ferch a gafodd ei llofruddio a’r dyn ifanc oedd wedi ei lladd. Roedd teulu’r ferch, Rebecca Aylward, wedi cwyno ar ôl clywed am luniau'r artist David Rees Davies.[4] Fe ymddiheurodd yr artist i'r teulu.[5]
Yn 2013, enillodd Josephine Snowden y brif wobr am waith fideo a ddefnyddiodd ddeialog Saesneg. Roedd beirniadaeth a dynodd sylw at y rheolau sy’n datgan y dylai unrhyw eiriau gwreiddiol fod yn Gymraeg. Ymatebodd Snowden ac nid oedd y geiriau eu hunain mor bwysig â'r ffordd yr oeddent yn cael eu defnyddio.[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.