Hwet-hwet gyddfddu
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Hwet-hwet gyddfddu (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: hwet-hwetiaid gyddfddu) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Pteroptochos tarnii; yr enw Saesneg arno yw Black-throated huet-huet. Mae'n perthyn i deulu'r Tapacwlos (Lladin: Rhinocryptidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]
Hwet-hwet gyddfddu Pteroptochos tarnii | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Rhinocryptidae |
Genws: | Pteroptochos[*] |
Rhywogaeth: | Pteroptochos tarnii |
Enw deuenwol | |
Pteroptochos tarnii | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. tarnii, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Yn ôl Wikipedia Sbaeneg fe'i gelwir yn 'hwet-hwet deheuol' yn Chile,neu'r gorginero (gyddf-ddu). Fe'i gelwir hefyd yn hued-hued, huet-huet yn yr Ariannin), du-throated hued-hued, gallereta, tuta, huez-huez. Yn mapudungun, iaith y mapuche fe'i gelwir ynwedwed (sef enw onomatopoeiaidd am ei gri, ond hefyd yn golygu "gwallgof"), huehueta neu huete. Mae'r rhywogaeth o aderyn yn un o'r tri sy'n perthyn i'r genws Pteroptochos o'r teulu Rhinocryptidae. Mae'n byw yn ne Chile ac mewn llain ar hyd ffin â'r Ariannin.