Heol-y-cyw
pentref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yng nghymuned Llangrallo Uchaf, bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw Heol-y-cyw.[1][2] Fe'i lleolir tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Pen-y-bont ar Ogwr ei hun, tua 20 milltir i'r gorllewin o ddinas Caerdydd. Poblogaeth: tua 300.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.551°N 3.5216°W |
Cod OS | SS945846 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Sarah Murphy (Llafur) |
AS/au | Jamie Wallis (Ceidwadwyr) |
Cau
Ceir capel yr Annibynwyr, eglwys, tafarn a chlwb gweithwyr yn y pentref. Mae'r plant yn mynychu'r ysgol gynradd leol.
Sefydlwyd Clwb Rygbi Heol-y-cyw yn 1905.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Jamie Wallis (Ceidwadwyr).[4]