Heledd ferch Cyndrwyn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Heledd ferch Cyndrwyn (ganwyd tua 610[1]) oedd y ferch gyntaf i gael ei henwi o fewn llenyddiaeth Gymraeg.[2] Ni wyddwn ai merch real ynteu merch dychmygol ydoedd. Mae'n ymddangos fel tywysoges Teyrnas Powys ac Amwythig yng Nghanu Heledd, sy'n disgrifio Brwydr Maes Cogwy lle bu farw ei brawd Cynddylan (m. 655). Wedi'r frwydr enbyd hon, daeth terfyn ar reolaeth y teulu dros yr ardal. O'i genau hi y daw wylofain Canu Heledd.[3]
Heledd ferch Cyndrwyn | |
---|---|
Ganwyd | Teyrnas Deheubarth ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Tad | Cyndrwyn Fawr ![]() |
Cysylltir hi a Phengwern, a chred rhai haneswyr fod ei theulu hefyd wedi rheoli Dogfeiling. Yn y mynegai hwnnw a elwir yn Drioedd Ynys Prydain, caiff ei henwi fel 'un o dair gwestai llys Arthur', ond Heledd arall yw hon, sydd a'i gwreiddiau mewn chwedloniaeth llawer hŷn. Craidd Trioedd Ynys Prydain yw chwedlau neu draddodiadau am gymeriadau Cymreig neu Frythonaidd sy'n perthyn i fyd mytholeg, hanes traddodiadol Cymru ac Ynys Prydain o safbwynt Cymreig.[1]