Brwydr Maes Cogwy
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ymladdwyd Brwydr Maes Cogwy (neu Brwydr Cogwy, Saesneg: Battle of Maserfield) ar 5 Awst 641 neu 642, neu yn ôl yr Annales Cambriae yn 644, rhwng Oswallt, brenin Northumbria a Penda, brenin Mersia. Yn ôl pennill yng Nghanu Heledd, roedd Cynddylan ap Cyndrwyn o Bengwern hefyd yn rhan o'r ymladd. Er na ddywedir hynny, mae'n debygol ei fod mewn cynghrair gyda Penda, gan fod llinell ym Marwnad Cynddylan sy'n awgrymu hynny.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dyddiad ...
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 5 Awst 642 |
Lleoliad | Croesoswallt |
Cau
Gorchfygwyd byddin Northumbria, a lladdwyd Oswallt. Y farn gyffredinol yw fod y frwydr rywle gerllaw Croesoswallt.