![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/30/SpottedFlycatcheronfence.jpg/640px-SpottedFlycatcheronfence.jpg&w=640&q=50)
Gwybedog mannog
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gwybedog mannog (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: gwybedogion mannog) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Muscicapa striata; yr enw Saesneg arno yw Spotted flycatcher. Mae'n perthyn i deulu'r Gwybedogion (Lladin: Muscicapidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Gwybedog mannog Muscicapa striata | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Muscicapidae |
Genws: | Muscicapa[*] |
Rhywogaeth: | Muscicapa striata |
Enw deuenwol | |
Muscicapa striata
| |
![]() | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn M. striata, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop ac Affrica. Mae'r Gwybedog Brith yn aderyn mudol sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica i'r de o anialwch y Sahara ac yn ne-ddwyrain Asia. Aderyn brown ydyw, gyda'r bol yn wyn, heb unrhyw nodwedd darawiadol. Maent yn nythu mewn coedwigoedd llydanddail, parciau a gerddi.
Er ei fod yn parhau i fod yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru, mae ei niferoedd wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.