Gwobr Ifor Davies
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwobr gelf yw Gwobr Ifor Davies a gyflwynir yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Dyfernir am y gwaith yn yr Arddangosfa Agored sy’n cyfleu 'ysbryd y frwydr' dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru.[1]
Noddwyd y wobr gan yr artist Ifor Davies. Pan enillodd ef y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro 2002, penderfynodd ddefnyddio’r wobr ariannol er mwyn sefydlu ei wobr ei hun. Er bod yr arian gwreiddiol wedi hen ddod i ben, mae’n parhau i ddyfarnu Gwobr Ifor Davies. Erbyn hyn mae cyhoeddi enw’r enillydd yn un o uchafbwyntiau gweithgareddau’r Lle Celf.[2]