gwlad sofran From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Gwlad Iorddonen neu'n syml yr Iorddonen (Arabeg لمملكة الأردنّيّة الهاشميّة Al-Mamlakah al-Urdunniyyah al-Hāšimiyyah) yn wlad Arabaidd sy'n ffinio ag Israel i'r gorllewin, Syria i'r gogledd, Irac i'r dwyrain a Sawdi Arabia i'r de-orllewin. Amman yw prifddinas y wlad. Mae'r wlad ar groesffordd bwysig rhwng Asia, Affrica ac Ewrop. Ei henw swyddogol yw "Teyrnas Hasimaidd Iorddonen".[1] Cafodd sofraniaeth y wlad ei chreu yn 1946 o ran o Balesteina Brydeinig.
المملكة الأردنية الهاشمية Al-Mamlakah Al-Urdunnīyah Al-Hāshimīyah Teyrnas Hasimaidd Iorddonen | |
Arwyddair | Duw, Gwlad, Y Frenhiniaeth |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, brenhiniaeth gyfansoddiadol, gwlad |
Enwyd ar ôl | Afon Iorddonen |
Prifddinas | Amman |
Poblogaeth | 10,428,241 |
Sefydlwyd | 25 Mai 1946 oddi wrth Lloegr |
Anthem | Anthem Frenhinol Gwlad Iorddonen |
Pennaeth llywodraeth | Bisher Al-Khasawneh |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00, Asia/Amman |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia, Y Byd Arabaidd, Asia |
Gwlad | Gwlad Iorddonen |
Arwynebedd | 89,341 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Israel, Sawdi Arabia, Syria, Irac, y Lan Orllewinol, Gwladwriaeth Palesteina |
Cyfesurynnau | 31.2°N 36.5°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Senedd Gwlad Iorddonen |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Brenin Gwlad Iorddonen |
Pennaeth y wladwriaeth | Abdullah II, brenin Iorddonen |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gwlad Iorddonen |
Pennaeth y Llywodraeth | Bisher Al-Khasawneh |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $45,116 million, $47,451 million |
Arian | dinar (Iorddonen) |
Canran y diwaith | 11 ±1.1 canran |
Cyfartaledd plant | 3.422 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.72 |
Amgylchynir Gwlad yr Iorddonen gan wledydd eraill; mae ganddi arwynebedd o 89,342 km2 (34,495 sq mi) a phoblogaeth o 10,428,241 (19 Mehefin 2019)[2]. Hi, felly, yw'r 11eg gwlad mwyaf poblog allan o'r holl wledydd Arabaidd. Islam Sunni sy'n cael ei harfer gan 95% o'r boblogaeth, gyda lleiafrif bach iawn yn Gristnogion. Gelwir y wlad yn aml yn "Werddon o Sefydlogrwydd" oherwydd yr ansicrwydd a'r rhyfela yn y gwledydd o'i chwmpas a gododd yn dilyn y Gwanwyn Arabaidd.[3]
Ers 1948, mae'r Iorddonen wedi derbyn ffoaduriaid o wledydd cyfagos, o ganlyniad i wrthdaro a rhyfel. Yn 2015 amcangyfrifwyd fod 2.1 miliwn o Balesteiniaid ac 1.4 miliwn o Syriaid wedi ymgartrefu yn y wlad.[4] Mae yma hefyd filoedd o ffoaduriaid Cristnogol o Irac. Mae hyn i gyd yn rhoi wysau trwm iawn ar isadeiledd ac economi'r wlad.[5]
Ceir cofnod o bobl yn byw yma ers Hen Oes y Cerrig ac yn niwedd yr Oes Efydd fe'i rheolwyd gan dair brenhiniaeth wahanol: Ammon, Moab ac Edom.[6] Yna daeth Brenhiniaeth y Nabatea, cyfnod gyda'r Rhufeiniaid yn ei rheoli ac yna Ymerodraeth yr Otomaniaid.[7] Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1921 daeth 'Emiradau Trawsiorddonen' (Emirate of Transjorda) i fodolaeth, dan brotectoriaeth Prydain, wedi'i ffurfio allan o'r o Balesteina Brydeinig. Cafod Trawsiorddonen ei chydnabod gan Gynghrair y Cenhedloedd yn yr un flwyddyn.[8] Yn 1946 cyhoeddodd ei hannibyniaeth oddi wrth Prydain a dethlir y diwrnod hwn yn flynyddol ar 25 Mai. Ei henw swyddogol oedd "Teyrnas Hasimaidd Trawsiorddonen".
Yn y Rhyfel rhwng Arabia ac Israel yn 1948, meddiannodd diroedd Y Lan Orllewinol a newidiwyd enw'r wladwriaeth yn "Frenhiniaeth Hasimaidd Iorddonen" ar 1 Rhagfyr 1948.[9] Gwadodd yr Iorddonen mai hi oedd berchen y tiroedd yn 1988, cam diplomyddol, a esgorodd ar gytundeb hanesyddol rhwng Gwlad yr Iorddonen ac Israel, a arwyddwyd yn 1994.[10]
Mae Gwlad yr Iorddonen yn un o'r gwledydd a sefydlodd y Cynghrair Arabaidd a'r Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd. Mae'n wladwriaeth sofran, yn frenhiniaeth gyfansoddiadol gyda'r brenin yn dal pwerau gweithredol a deddfwriaethol.
Ystyrir yr Iorddonen yn wlad o "ddatblygiad dynol uchel" gydag economi "incwm canol-uwch". Mae'n un o'r economïau lleiaf yn y dwyrain canol, ond yn ddeniadol i fuddsoddwyr tramor oherwydd ei gweithlu medrus, ysgilgar.[12] Oherwydd mannau fel Petra a'r Môr Marw mae'r wlad yn gyrchfan bwysig i dwristiaid, ac mae hefyd yn denu twristiaeth feddygol oherwydd ei sector iechyd arbennig o safonol.[13] Serch hynny, mae diffyg adnoddau naturiol, llif mawr o ffoaduriaid a chythrwfl rhanbarthol wedi llesteirio'r twf economaidd.
Yn 2016 roedd 14.4% o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi.[14] Mae GDP (neu 'gynnyrch mewnwladol crynswth'; CMC) cyfoes y wlad yn 45,116,317,042 $ (UDA) (2021),[15] 47,451,499,859 $ (UDA) (2022)[15]. Ar gyfartaledd tyfodd y CMC 8% yn flynyddol rhwng 2004 a2008, ac yna ar gyfartaledd o 2.6%, yn dilyn y mewnlifiad anferthol o ffoaduriaid Syriaid i'r wlad.[16]
Mae economi Jordan yn gymharol amrywiol, gyda masnach a chyllid yn cyfrif am bron i draean o CMC; mae cludiant a chyfathrebu, gwasanaethau cyhoeddus, ac adeiladu yn cyfrif am un rhan o bump, ac mae mwyngloddio a gweithgynhyrchu yn cyfateb i bron i bumed arall. Er gwaethaf cynlluniau i ehangu'r sector preifat, mae'r wladwriaeth yn parhau i fod y prif rym yn economi Jordan.
Y pedwar ddinas fwyaf yn y wlad yw: Amman (y brifddinas), Zarqa, Irbid ac Acaba (unig borthladd y wlad) a Rwseiffa.
Mae Gwlad Iorddonen wedi'i rannu'n ddeuddeg o ardaloedd llywodraethol (muhafazah ), sy'n cael eu penu gan y Weinyddiaeth Fewnol. Rhennir llywodraeth leol ymhellach i ardaloedd (liwa) ac yn aml yn is-ardaloedd (qda).[19]
Yn ddaearyddol, mae Ardaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen wedi'u lleoli mewn un o dri rhanbarth: Rhanbarth y Gogledd, y Rhanbarth Canolog a Rhanbarth y De. Nid yw'r tri rhanbarth daearyddol yn cael eu dosbarthu yn ôl ardal neu boblogaethau ond yn hytrach gan gysylltedd daearyddol a phellter ymhlith y canolfannau poblogaeth. Mae Mynyddoedd Moab yn Ardal Lywodraethol Karak yn gwahanu Rhanbarth y De o'r Rhanbarth Canolog. Mae canolfannau poblogaeth Rhanbarth y Canolbarth a'r Gogledd yn cael eu gwahanu'n ddaearyddol gan fynyddoedd Ardal Lywodraethol Jerash. Yn gymdeithasol, mae canolfannau poblogaeth Amman, Salt, Zarqa a Madaba yn ffurfio un ardal fetropolitan fawr le mae rhyngweithiadau busnes yn y dinasoedd hyn o dan ddylanwad Amman tra bod dinasoedd Jerash, Ajloun, a Mafraq yn bennaf o dan ddylanwad dinas Irbid.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.