Pryf gydag adenydd dwbwl sy'n perthyn i urdd Odonata yw gwas neidr (hefyd: gwas y neidr) (lluosog: gweision neidr). Mae'n byw ger llynnoedd, nentydd a gwernydd ac maen nhw'n bwyta mosgitos, gwybed, clêr, gwenyn, gloynnod byw a phryfed eraill. Nid ydynt yn brathu nac yn pigo pobl. Mae'r gair Groeg Anisoptera yn golygu "adenydd anwastad" gan fod yr adain cefn yn lletach na'r rhai blaen.[2]
Gweision neidr | |
---|---|
Gwäell asgell aur - (Sympetrum flaveolum) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Anisoptera |
Teuluoedd[1] | |
$Uwchdeulu yw Aeshnoidea, Cordulegastroidea a Libelluloidea. $$Nid yw'n gytras |
Un o brif nodweddion y gwas neidr yw ei lygaid cyfansawdd enfawr, dau bâr o adenydd a chorff hir sy'n eu galluogi i weld bron i 360 gradd - i bob cyfeiriad. Fel pob pryfyn arall mae ganddyn nhw chwe choes; ond nid ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw, bellach, yn medru cerdded. Mae'r gwas y neidr ymhlith y pryfaid a all hedfan gyflymaf ac am gyfnod hir e.e. ar draws y cefnforoedd. Gallant hedfan i 6 chyfeiriad: ymlaen, yn ôl, i fyny, i lawr, i'r chwith ac i'r dde.[3] Mae'r Ymerawdwyr yn medru hedfan ar gyflymder uchaf o 10–15 metr yr eiliad (22–34 mya).
Dim ond am chwe mis mae rhai gweision y neidr yn byw, tra bod eraill yn byw cyn hired â chwe neu saith mlynedd.
Ceir oddeutu 3000 math gwahanol o weision neidr ac mae tua 5,900 o rywogaethau yn yr urdd Odonata gan gynnwys y mursennod.[4][5]
Ffosiliau a pherthynas teuluoedd
Mae'r gwas y neidr yn hen grŵp a cheir ffosiliau o weision neidr mawr o gyfnod y Meganisoptera (tua 300-325 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol. Mae gan y ffosiliau hyn faint adenydd o 750 mm (30 mod). Yn y grŵp hwn mae'r Meganeuropsis, sef y pryf mway ei faint ar wyneb y Ddaear. Ceir tua 3,000 rhywogaeth o Anisoptera ar y Ddaear heddiw. Mae'r rhan fwyaf yn drofanol.
'Dyw'r union berthynas rhwng y gwahanol deuluoedd heb ei brofi'n llawn (yn 2015), ondmae'r coeden deulu canlynol yn rhoi syniad i ni o'r berthynas honno. Y llinellau toredig yw' berthynas nad ydyw wedi'i brofi'n llawn.
Anisoptera |
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gweision neidr gwledydd Prydain
Ceir 57 o rywogaethau'r Odonata yng ngwledydd Prydain: mae 21 ohonynt yn fursennod (is-urdd Zygoptera) a 36 ohonynt yn weision neidr (is-urdd suborder Anisoptera). Ond ymwelwyr yw rhai o'r rhain ac mae rhai ar y rhestr wedi hen farw o'r gwledydd hyn. Y niferoedd sy'n parhau i baru ar yr ynysoedd hyn (yn 2015) yw 42, sef 17 o fursennod a 25 o weision neidr. Caiff y rhestr hon ei diweddaru ar adegau gan Odonata Records Committee a ffurfiwyd yn 1998.
Dyma nhw:
- Is-urdd Anisoptera (Gweision neidr)
- Teulu'r Gomphidae ('Gweision neidr tindrom')
- Teulu'r Aeshnidae ('Yr Ymerawdwyr')
- Teulu'r Cordulegastridae ('Gweision neidr torchog')
- Teulu'r Corduliidae ('Y Gweision gwyrdd')
- Teulu'r Libellulidae ('Y Picellwyr')
Ar lafar, ac yn gyffredinol gelwir y mursennod hefyd yn weision neidr, er nad yw hyn yn hollol gywir. Dyma'r prif grwpiau:
- Is-urdd Zygoptera (Mursennod)
- Teulu'r Calopterygidae ('Y Morwynion')
- Teulu'r Lestidae ('Y Mursennod gwyrdd')
- Teulu'r Coenagrionidae ('Y Mursennod coch a glas-ddu')
- Teulu'r Platycnemididae ('Y Mursennod coeswen')
Mae gan nifer o weision neidr enwau Cymraeg ac mae'r rheiny ar y cyfan wedi'u canfod yng ngwledydd Prydain ar ryw gyfnod.
Teulu'r Gomphidae - Y Gweision neidr tindrom
Delwedd | Rhywogaeth | Enw Lladin | Gwledydd | Côd eu statws |
---|---|---|---|---|
Gwas neidr dindrom [B] | Gomphus vulgatissimus | Cymru Lloegr |
||
Gwas neidr coes felen [C] | Gomphus flavipes | V (1818) |
Teulu'r Aeshnidae - Yr Ymerawdwyr
Delwedd | Rhywogaeth | Enw Lladin | Gwledydd | Côd eu statws |
---|---|---|---|---|
Gwas neidr y De | Aeshna cyanea | yr Alban Cymru Lloegr |
||
Gwas neidr brown | Aeshna grandis | Cymru Lloegr |
||
Gwas neidr llygadwyrdd | Aeshna isoceles | Lloegr[K] | ||
Gwas neidr Asur | Aeshna caerulea | yr Alban | ||
Gwas neidr glas | Aeshna juncea | yr Alban Cymru Lloegr |
||
Gwas neidr mudol | Aeshna mixta | Cymru Lloegr |
||
Gwas neidr mudol y De [D] | Aeshna affinis | V (1952) | ||
Ymerawdwr | Anax imperator | Cymru Lloegr |
||
Ymerawdwr bach | Anax parthenope | Cymru Lloegr |
RC (1996) | |
Gwas neidr gwyrdd | Anax junius | V (1998) | ||
Gwas neidr flewog | Brachytron pratense | yr Alban Cymru Lloegr |
||
Gwas neidr crwydrol [E] | Hemianax ephippiger | V (1903) |
Teulu'r Cordulegastridae - Gweision neidr torchog
Delwedd | Rhywogaeth | Enw Lladin | Gwledydd | Côd eu statws |
---|---|---|---|---|
Gwas neidr eurdorchog | Cordulegaster boltonii | yr Alban Cymru Lloegr |
Teulu'r Corduliidae - Y Gweision Gwyrdd
Delwedd | Rhywogaeth | Enw Lladin | Gwledydd | Côd eu statws |
---|---|---|---|---|
Gwas gwyrdd blewog | Cordulia aenea | yr Alban Cymru Lloegr |
||
Gwas gwyrdd gloyw | Somatochlora metallica | yr Alban Lloegr |
||
Gwas gwyrdd y Gogledd | Somatochlora arctica | yr Alban | ||
Gwas orenfrith | Oxygastra curtisii | Ex (1963) |
Teulu'r Libellulidae - Y Picellwyr
Delwedd | Rhywogaeth | Enw Lladin | Gwledydd | Côd eu statws |
---|---|---|---|---|
Picellwr praff | Libellula depressa | Cymru Lloegr |
||
Picellwr prin | Libellula fulva | Lloegr | ||
Picellwr pedwar nod | Libellula quadrimaculata | yr Alban Cymru Lloegr |
||
Picellwr tinddu | Orthetrum cancellatum | Cymru Lloegr |
||
Picellwr cribog | Orthetrum coerulescens | yr Alban Cymru Lloegr |
||
Gwäell scarlad | Crocothemis erythraea | V (1995) | ||
Gwäell ddu | Sympetrum danae | yr Alban Cymru Lloegr |
||
Gwäell asgell aur [F] | Sympetrum flaveolum | V | ||
Gwäell wythien goch | Sympetrum fonscolombei | Lloegr | RC | |
Gwäell rudd | Sympetrum sanguineum | Cymru Lloegr |
||
Gwäell gyffredin [G] | Sympetrum striolatum | yr Alban Cymru Lloegr |
||
Gwäell grwydrol | Sympetrum vulgatum | V | ||
Gwäell resog | Sympetrum pedemontanum | V (1995) | ||
Picellwr wynebwyn | Leucorrhinia dubia | yr Alban Cymru Lloegr |
||
Picellwr wynebwyn mawr [H] | Leucorrhinia pectoralis | V (1859) | ||
Y gleider crwydrol [I] [J] | Pantala flavescens | V (1823) |
Gweision neidr yng Nghymru
Yng Nghymru roedd 37 o rywogaethau o Urdd yr Odanata yn paru rhwng 2010 a 2015: 22 o fursennod (Zygoptera) a 15 o weision neidr (Anisoptera).[6]
Dyma'r gweision neidr:
- Gwas neidr glas - Aeshna juncea
- Gwas neidr mudol - Aeshna mixta
- Gwas neidr y De - Aeshna cyanaea
- Gwas neidr brown - Aeshna grandis
- Ymerawdwr - Anax imperator
- Ymerawdwr bach - Anax parthenope
- Gwas neidr crwydrol - Anax (Hemianax) ephippiger
- Gwas neidr flewog - Brachytron pratense
- Gwas neidr dindrom - Gomphus vulgatissimus
- Gwas neidr eurdorchog - Cordulegaster boltonii
- Gwas gwyrdd blewog - Cordulia aenea
- Picellwr wynebwyn - Leucorrhinia dubia
- Picellwr pedwar nod - Libellula quadrimaculata
- Picellwr praff - Libellula depressa
- Picellwr tinddu - Orthetrum cancellatum
- Picellwr cribog - Orthetrum coerulescens
- Gwäell wythien goch - Sympetrum fonscolombii
- Gwäell asgell aur - Sympetrum flaveolum
- Gwäell rudd - Sympetrum sanguineum
- Gwäell ddu - Sympetrum danae
- Gwäell grwydrol - Sympetrum vulgatum
Maint
Enw'r rhywogaeth | milimetrau |
---|---|
picellwr wynebwyn | 37(Leucorrhinia dubia) |
picellwr cribog | 44(Orthetrum coerulescens) |
gwas gwyrdd blewog | 48(Cordulia aenea) |
picellwr pedwar nod | 48(Libellula quadrimaculata) |
picellwr praff | 48(Libellula depressa) |
picellwr tinddu | 49(Orthetrum cancellatum) |
gwas neidr flewog | 55(Brachytron pratense) |
gwas neidr mudol | 63(Aeshna mixta) |
gwas neidr crwydrol | 63(Anax (Hemianax) ephippiger) |
gwas neidr y de | 70(Aeshna cyanaea) |
ymerawdwr bach | 71(Anax parthenope) |
gwas neidr brown | 73(Aeshna grandis) |
gwas neidr glas | 74(Aeshna juncea) |
ymerawdwr | 78(Anax imperator) |
gwas neidr eurdorchog | 84(Cordulegaster boltonii) |
Gweler hefyd
- Mursennod (Zygoptera)
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.