rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gwatwarwr aeliog (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: gwatwarwyr aeliog) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Mimus saturninus; yr enw Saesneg arno yw Chalk-browed mockingbird. Mae'n perthyn i deulu'r Gwatwarwyr (Lladin: Mimidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]
Gwatwarwr aeliog Mimus saturninus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Mimidae |
Genws: | Mimus[*] |
Rhywogaeth: | Mimus saturninus |
Enw deuenwol | |
Mimus saturninus | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn M. saturninus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Ne America.
Mae'r gwatwarwr aeliog yn perthyn i deulu'r Gwatwarwyr (Lladin: Mimidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Cathaderyn du | Melanoptila glabrirostris | |
Cathaderyn llwyd | Dumetella carolinensis | |
Crynwr brown | Cinclocerthia ruficauda | |
Gwatwarwr cefnwinau | Mimus dorsalis | |
Gwatwarwr glas | Melanotis caerulescens | |
Gwatwarwr y Gogledd | Mimus polyglottos | |
Gwatwarwr y paith | Mimus patagonicus | |
Tresglen Cozumel | Toxostoma guttatum | |
Tresglen Sorocco | Mimus graysoni | |
Tresglen grymbig | Toxostoma curvirostre | |
Tresglen gynffonhir | Toxostoma rufum | |
Tresglen hirbig | Toxostoma longirostre | |
Tresglen saets | Oreoscoptes montanus |
Yr adar mwyaf cyffredin ac eang eu dosbarthiad yn Nyffryn Camwy yw aelodau o deulu’r gwatwarwyr (Mimidae). Fe’u gwelir ar lwyni’r paith, ar dir amaethyddol, yn y trefi a phentrefi, ac maent yn adar bywiog a chwilfrydig. Mae yna 34 aelod yn nheulu’r Mimidae, i gyd yn byw yn ne a gogledd America, 5 rhywogaeth yn yr Ariannin a 3 o’r rhain yn Nyffryn Camwy.[3]
Adar main ydynt, yr un maint a mwyalchen neu fronfraith yng Nghymru, ond â chynffon hirach. Cefnau llwyd-frown, boliau golau, a llinell wen uwchben y llygad. Ceir rhywfaint o wyn ar y gynffon a’r adenydd a bydd yr amrywiaeth ym mhatrwm y gwyn, ynghyd â maint yr aderyn a dwyster y llinell wen uwch y llygad yn fodd i wahaniaethu rhwng y rhywogaethau welir yn y Dyffryn.[4]
Ystyr yr enw Mimidae yw gwatwarwyr neu ddynwaredwyr – rhain yw mocking birds yr UD am eu bod yn dynwared caneuon adar eraill i ychwanegu at eu repertoire cyfoethog eu hunain. Dyma strategaeth welir hefyd ymysg teuluoedd eraill o adar ar draws y byd, a thybir mai y rheswm am hynny yw bod yr iâr yn debycach o ddewis cymar gyda’r amrywiaeth fwyaf yn ei gân. Bydd hynny’n arwydd o geiliog profiadol a llwyddiannus; goroeswr sy’n gwybod be ydi be ac wedi cael amser i gyfoethogi ei gân. Bydd yn debycach felly o wneud job dda o fagu’r cywion.[5]
Y gwatwarwyr yw’r enw safonol Cymraeg ar y mathau welir yn Nyffryn Camwy, a’r ddau mwyaf cyffredin yw y gwatwarwr aeliog (Mimus saturninus) sydd i’w weld amlaf o fewn ac o gwmpas tref y Gaiman, a gwatwarwr y paith (Mimus patagonicus) sydd fwyaf cyffredin ar y paith. Enwau Sbaenaidd y gwatwarwr yw calandria, ond mae enw Cymraeg gan Gymry Patagonia, sef y cantor. Enw addas iawn o ystyried cyfoeth ei gân. Mae’n debyg mai yr un aeliog fyddai’n ennill o ryw ychydig pe cynhelid Eisteddfod yr adar, a dywedir ei fod yn aml yn dynwared chwiban ddynol. Bum yn chwibannu nodau amrywiol ar rai ohonynt sawl gwaith, a’r deryn yr ymateb drwy ddistewi, dod yn nes, a gwrando’n astud â’i ben wedi gwyro ychydig i un ochr. Ond wnaeth yr un fy nynwared. E’lla y byddai gwell siawns o hynny yn y tymor nythu, oedd rai misoedd i ffwrdd, neu fy mod yn chwibanwr gwael iawn, pwy a ŵyr?[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.