Guglielmo Marconi
dyfeisiwr Eidalaidd ac arloeswr radio (1874-1937) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyfeisiwr a pheiriannydd trydanol o'r Eidal oedd Guglielmo Giovanni Maria Marconi (25 Ebrill 1874 – 20 Gorffennaf 1937), sy'n adnabyddus am greu system radio-telegraffi, sef telegraff diwifr gan ddefnyddio tonnau radio.[1] Felly cafodd Marconi y clod am ddyfeisio radio, a rhannodd Wobr Ffiseg Nobel 1909 gyda Karl Ferdinand Braun "i gydnabod eu cyfraniadau i ddatblygiad telegraffiaeth ddiwifr".
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Guglielmo Marconi | |
---|---|
Ganwyd | Guglielmo Giovanni Maria Marconi 25 Ebrill 1874 Bologna |
Bu farw | 20 Gorffennaf 1937 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ffisegydd, peiriannydd, gwleidydd, person busnes, dyfeisiwr, gwyddonydd |
Swydd | seneddwr ym Mrenhiniaeth yr Eidal |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ffasgaidd Genedlaethol |
Tad | Giuseppe Marconi |
Mam | Annie Jameson |
Priod | Beatrice Marconi, Maria Cristina Bezzi-Scali |
Plant | Degna Marconi Paresce |
Perthnasau | Francesco Paresce |
Gwobr/au | Marchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, Gwobr Ffiseg Nobel, Medal John Fritz, Medal Anrhydedd IEEE, Medal Wilhelm Exner, Medal Matteucci, Neuadd Enwogion New Jersey, Oriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr, Urdd Sant Anna, Ail Ddosbarth, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Celf (FRSA), Medal Albert, Medal Franklin, Gwobr "Plus Ultra", Gwobr Edison, Uwch Groes ar Orchymyn Sifil Alfonso XII, Vallauri Prize, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth, Grand Officer of the Order of Saints Maurice and Lazarus, Q104212495, Knight grand cross of the order of the crown of Italy, Order of Merit for Labour, Medal Victoria, Urdd Pïws IX, Urdd Sofran Milwyr Malta, Urdd Filwrol Sant Iago'r Gleddyf, Urdd Tywysog Danilo I |
llofnod | |
Cau
Roedd Marconi hefyd yn ddyn busnes a sefydlodd ym 1897 The Wireless Telegraph & Signal Company, a ddaeth yn ei dro The Marconi Company. Ym 1929, cafodd ei urddo'n Marchese (ardalydd) yr Eidal gan y Brenin Victor Emmanuel III. Ym 1931 sefydlodd Radio Vaticana ar gyfer y Pab Pïws XI.