Goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ar 24 Chwefror 2022, lansiodd Rwsia ymosododiad milwrol mawr ar Wcráin, gwlad gyfagos iddi yn y de-ddwyrain. Roedd hyn wedi golygu dwysâd i'r gwrthdaro rhwng y ddwy wlad a ddechreuodd yn 2014. Yn sgil Chwyldro Urddasol Wcráin yn 2014, cyfeddiannodd Rwsia benrhyn y Crimea ac roedd lluoedd ymwahanwyr wedi cipio rhan o'r Donbas yn nwyrain Wcráin â chefnogaeth Rwsia, a arweiniodd wedyn at wyth mlynedd o ryfela yn yr ardal.[1][2] Roedd rhai adroddiadau yn dweud mai ymosodiad confensiynol mwyaf Ewop ers yr Ail Ryfel Byd oedd y gorsegyniad hwn.[3][4][5]
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel, gweithrediad milwrol, ymosodiad milwrol, goresgyniad, rhyfel heb ei gyhoeddi'n swyddogol, international conflict, war of aggression, religious war |
---|---|
Lladdwyd | 42,295, 10,000 |
Achos | Ehangiad nato i'r dwyrain, russian irredentism, decommunization in ukraine, presidency of viktor yanukovych, putin's plan, etholiad arlywyddol rwsia, 2024, ukraine bioweapons conspiracy theory |
Gwlad | Wcráin Rwsia |
Rhan o | Rhyfel Rwseg-Wcreineg |
Dechreuwyd | 24 Chwefror 2022 |
Rhagflaenwyd gan | argyfwng Wcráin–Rwsia 2021–22 |
Lleoliad | Dwyrain Ewrop, Wcráin, Rwsia, Crimea |
Yn cynnwys | Eastern Ukraine campaign, southern Ukraine campaign, Northeastern Ukraine offensive, 2022 Kharkiv counteroffensive, Russian annexation of Donetsk, Kherson, Luhansk and Zaporizhzhia oblasts, Russian strikes against Ukrainian infrastructure, war crimes in the Russian invasion of Ukraine, attacks in Russia during the Russian invasion of Ukraine, 2022 Kherson counteroffensive, Belarusian and Russian partisan movement, Northern Ukraine campaign, Q117531310, 2023 Ukrainian counteroffensive |
Gwladwriaeth | Wcráin, Gweriniaeth Pobl Luhansk, Gweriniaeth Pobl Donetsk, Rwsia, Belarws, Talaith Kherson, Talaith Zaporozhye |
Gwefan | https://z.mil.ru/spec_mil_oper.htm |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Yn gynnar yn 2021, roedd byddin Rwsia wedi dechrau ymgasglu wrth ffiniau Wcráin â Rwsia a Belarws. Cyhuddodd yr Unol Daleithiau ac eraill Rwsia o gynllunio goresgyniad, ond gwadodd swyddogion Rwsiad hyn droeon. Yn ystod yr argyfwng hwn, roedd Fladimir Pwtin wedi comdemnio ehangiad Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO)[6] a mynnu bod Wcráin yn cael ei gwahardd am byth rhag ymuno â'r gynghrair filwrol honno.[7] Mynegodd Putin a swyddogion y Cremlin farn iredentaidd[8] a chwestiynu hawl Wcráin i'w sofraniaeth ei hun.[9][10] Cyn y cyrch, cyhuddasant Wcráin o hil-laddiad yn erbyn Wcreiniaid Rwsieg eu hiaith er mwyn ceisio cyfiawnhau rhyfel, er mai'r farn gyffredin yw nad oes sail i'r cyhuddiadau hyn.
Ar 21 Chwefror 2022, cydnabu Rwsiad fodolaeth gweriniaethau pobl Donetsk a Luhansk, dwy wlad hunangyhoeddedig wedi eu rheoli gan luoedd teyrngar i Rwsia yn y Donbas.[11] Trannoeth, bu Cyngor Ffederasiwn Rwsia yn unfrydol wrth roi eu hawdurdod i Putin ddefnyddio grym milwrol y tu allan i ffiniau Rwsia ac felly anfonodd y wlad fel miwyr i mewn i'r tiriogaethau hyn. Tua 05:00 Amser Dwyrain Ewrop (UTC+2) ar 24 Chwefror, cyhoeddodd Putin "ymgyrch filwrol arbennig"[12] yn nwyrain Wcráin, a munudau wedyn, dechreuodd taflegrau daro mannau ar draws Wcráin, gan gynnwys y brifddinas, Kyiv. Dywedodd Gwasanaeth Gwarchodlu Ffin Gwlad Wcráin fod ymosod ar ei orsafoedd ar y ffin â Rwsia a Belarws.[13][14] Ddwy awr wedyn, croesodd byddin Rwsia y ffin a threiddio i'r wlad.[15] Ymatebodd arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelenskyy, drwy ddatgan rheolaeth filwrol, gan dorri cysylltiadau diplomyddol â Rwsia a galw am ymfyddino.[16]
Beirniadwyd y goresgyniad yn hallt yn gyffredinol ar draws y byd, a gosodwyd sancsiynau ar Rwsia a sbardunodd argyfwng ariannol yno. Bu gwrthdystio ledled y byd yn erbyn yr ymosodiad tra bo llawer o wrthdystwyr yn Rwsia ei hun gael eu harestio.[17][18] Cyn ac yn ystod y goresgyniad, mae nifer o wledydd wedi bod yn darparu cymorth i Wcráin, gan gynnwys arfau a chefnogaeth matériel. Mewn ymateb i hyn, rhoddodd Putin luoedd niwclear Rwsia ar rybudd uchel.[19]
Yn ôl Uwch Gomisynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR), mwy na 500,000 o Wcreiniaid ffodd y wlad yn ystod pedwar diwrnod cyntaf y goresgyniad, a achosodd argyfwng ffoaduriaid ar draws Ewrop.[20]