Goresgyniad Llain Gaza gan Israel (2023‒24)
ymgais Israel i feddianu Llain Gaza a lladd miloedd o Balesteiniaid / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ar 27 Hydref 2023, lansiodd Israel goresgyniad ar raddfa fawr[1][2] o Lain Gaza, fel rhan o Ryfel Gaza, gyda'r amcanion honedig o chwalu Hamas, rhyddhau gwystlon, ac ennill rheolaeth dros y Llain.[3][4] Daeth y goresgyniad yn sgil ymosodiad ar Israel gan Hamas ar 7 Hydref 2023. Ymatebodd Israel drwy ddatgan rhyfel, cryfhau ei blocâd ar Gaza, gorchymyn gwacâd yng ngogledd y Llain, a lansio "Ymgyrch Cleddyfau Haearn".
Llain Gaza
Ardaloedd o Israel a wacawyd Ardaloedd o Lain Gaza a oresgynnwyd gan Israel Ardaloedd o Israel a ymosodwyd gan Hamas ar 7 Hydref 2023
Ardaloedd o Lain Gaza a orchmynnwyd i'w wacáu gan Israel | |
Enghraifft o'r canlynol | goresgyniad |
---|---|
Dyddiad | 2023 |
Lladdwyd | 25,900, 30,275, 12,000, 21,052 |
Rhan o | Rhyfel Gaza |
Dechreuwyd | Hydref 2023 |
Lleoliad | Llain Gaza |
Yn cynnwys | y cyrch ar Ddinas Gaza, Brwydr Beit Hanoun |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Lladdwyd uwch na 28,000 o Balesteiniaid yn Gaza ers cychwyn yr ymgyrch Israelaidd,[5] gan gynnwys dros 10,000 o blant[6] a 7,000 o fenywod,[7] ac mae rhyw 7,000 o bobl eraill ar goll, a thybir eu bod yn farw, o dan adfeilion yr adeiladau a ddinistriwyd.[8][7] Erbyn canol Rhagfyr, gollyngodd Israel mwy na 29,000 o ffrwydron rhyfel ar Gaza, gan ddifrodi neu ddinistrio'n llwyr 70 y cant o gartrefi yn y Llain.[9] Yn ôl nifer o arbenigwyr, mae goresgyniad Gaza gan Israel yn un o'r ymgyrchoedd milwrol difetholaf mewn hanes diweddar yn nhermau maint a chyflymdra'r distryw.[10] Yn ystod y goresgyniad, dinistriodd Lluoedd Amddiffyn Israel o leiaf traean o'r holl gartrefi yn Gaza yn ogystal â channoedd o dirnodau diwylliannol, a chafodd degau o gladdfeydd yn y Llain eu halogi.
Datblyga argyfwng dyngarol difrifol o ganlyniad i'r goresgyniad, a wela gofal iechyd yn chwalu'n llwyr,[11] prinderau bwyd, dŵr glân, meddyginiaeth, a thanwydd oherwydd y blocâd,[12][13][14] toriadau trydan a diffyg cyfathrebu,[15] a'r Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio bod newyn ar fin dechrau.[16] Mae lluoedd Israel wedi targedu ardaloedd y mae ynghynt wedi cyfarwyddo Palesteiniaid i lochesu, ac felly mae nifer o adroddiadau o'r Llain wedi datgan "nad oes yr un lle diogel yn Gaza".[17][18][19] Yn sgil y nifer fawr o farwolaethau sifiliaid, cyhuddwyd Israel ac Hamas fel ei gilydd o droseddau rhyfel.[20][21] Mae bron pob un o'r 2.3 miliwn o bobl yn Gaza wedi eu dadleoli'n fewnol[22] a dadleolwyd hefyd 250,000–500,000 o Israeliaid ar ochr draw'r ffin.[23][24][25] Caiff hefyd miloedd o Balesteiniaid eu caethiwo gan Israel,[26][27] a chyhoeddodd Israel bod dros 200 o'i milwyr wedi marw yn y Llain yn ystod y goresgyniad hyd at Chwefror 2024.[28]
Mewn ymateb i effeithiau'r goresgyniad, cychwynnodd llywodraeth De Affrica achos yn erbyn Israel yn y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol (ICJ), gan gyhuddo Israel o hil-laddiad yn Llain Gaza, a galw ar yr ICJ i gyhoeddi mesurau amddiffyn dros dro.