From Wikipedia, the free encyclopedia
Yn ystod Rhyfel Gaza (2023‒24), gorchmynnodd Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) i'r mwyafrif helaeth o drigolion Llain Gaza adael eu cartrefi, gan ddadleoli cannoedd o filoedd o bobl a gwaethygu'r argyfwng dyngarol yn y diriogaeth.[1][2][3] Hwn ydy'r achos mwyaf o ddadleoli'r Palesteiniaid ers 75 mlynedd[4] (ym Mai 2024, amcangyfrifodd Swyddfa'r Cenhedloedd Unedig dros Gyd-drefnu Materion Dyngarol (UNOCHA) bod 78 y cant o holl Lain Gaza yn ddarostyngedig i orchmynion gwacâd gan Israel),[5] ac mae nifer ohonynt wedi disgrifio'r gwacadau fel "ail Nakba".[6]
Map o Lain Gaza gyda'r llinell wacâd ar hyd Wadi Gaza yn ddu, gan ddynodi'r gwacâd cychwynnol yn y gogledd. | |
Enghraifft o'r canlynol | trosglwyddo poblogaeth, evacuation |
---|---|
Dyddiad | Hydref 2023 |
Rhan o | Rhyfel Gaza |
Dechreuwyd | 13 Hydref 2023 |
Lleoliad | Llain Gaza |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Cyhoeddwyd y gorchymyn cyntaf ar 13 Hydref 2023, chwe diwrnod wedi dechrau Rhyfel Gaza. Gorchmynnodd yr IDF wacâd y rhan o Lain Gaza i ogledd Wadi Gaza, gan gynnwys Dinas Gaza, gan gyfarwyddo sifiliaid i symud i dde'r llain ymhen 24 awr.[7] Cychwynnodd allfudiad ar raddfa enfawr o drigolion Palesteinaidd, ac erbyn 14 Hydref symudodd cannoedd o filoedd ohonynt tua'r de. Mae gan Lain Gaza ddwysedd poblogaeth uchel, a thrigiannodd mwy nag un filiwn o bobl yn y gogledd—rhyw hanner o gyfanswm poblogaeth y llain—ar ddechrau'r rhyfel. Yn y dyddiau cyn y gorchymyn, bu farw 1,800 o bobl yn Llain Gaza o ganlyniad i ymgyrch fomio Israel, ac yn ôl y Cenhedloedd Unedig cafodd mwy na 423,000 o drigolion Gaza eu dadleoli'n fewnol yn barod. Gollyngodd yr IDF daflenni o'r awyr ar Ddinas Gaza yn cyfarwyddo sifiliaid i "ymadael i'r de er diogelwch eich hunain a diogelwch eich teuluoedd" ac i "ymddieithrio'ch hunain oddi wrth derfysgwyr Hamas sy'n defnyddio chi fel tarianau dynol". Ffoes yr ymadawyr mewn ceir, bysiau bychain a chertiau mulod, ac ar gerdded, er gwaetha'r prinder tanwydd o ganlyniad i warchae Israel ar Lain Gaza, a ffyrdd a ddinistriwyd gan fomiau'r IDF.[8][9]
Câi'r gorchymyn ei gondemnio gan nifer fel "dadleoli gorfodol" a'r ddiboblogaeth ei galw'n "ail Nakba" gan Mahmoud Abbas, Arlywydd Gwladwriaeth Palesteina. Mynegai Stéphane Dujarric, llefarydd o'r Cenhedloedd Unedig, bryder bod y fath ymadawiad yn "amhosib heb ganlyniadau dyngarol dinistriol", a chafodd y gorchymyn ei alw'n trosedd yn erbyn dynoliaeth a cham yn erbyn cyfraith ddyngarol ryngwladol gan Paula Gaviria Betancur, adroddwr arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol pobl sydd wedi'u dadleoli'n fewnol.[10][11][12][13][14] Er gwaetha'r bygythiad, erfynai gweinyddiaeth gartref Llain Gaza ar bobl i aros yn y fan. Cyhuddwyd Hamas gan John Kirby, llefarydd ar ran Cyngor Diogelwch Cenedlaethol yr Unol Daleithiau, o "godi rhwystrau ar y ffyrdd i atal pobl rhag dianc".[8]
Cychwynnodd goresgyniad Llain Gaza gan Israel ar 27 Hydref, ac erbyn 4 Tachwedd symudodd rhwng 800,000 ac 1 miliwn o bobl i dde Llain Gaza, gyda rhyw 350,000 i 400,000 o bobl yn aros yn y gogledd.[15] Er i Israel annog i bobl ymadael er diogelwch eu hunain, cafwyd sawl adroddiad o luoedd Israel yn targedu sifiliaid Palesteinaidd yn ystod y gwacâd, gan gynnwys lansio cyrchoedd awyr ar lwybrau'r ffoaduriaid ac ar diriogaeth "ddiogel" de Gaza.[16][17][18][19][20] Er enghraifft, cafodd cerbydau a oedd yn cludo sifiliaid ar hyd ffordd Salah-a-Din, un o'r ddau lwybr tua'r de, eu bomio gan yr IDF yn hwyr y prynhawn ar 13 Hydref. Yn ôl gweinyddiaeth iechyd Palesteina, lladdwyd 70 o bobl yn y cyrch awyr.[21] Mae ffoaduriaid wedi disgrifio'r llwybrau gwacáu yn anniogel ac yn frawychus o ganlyniad i bresenoldeb milwyr Israelaidd a chyrff y meirw ar hyd y ffordd.[22][23][24]
Ar 1 Rhagfyr, dechreuodd Israel gyhoeddi gorchmynion i wacáu ar draws Gaza oll, gan rannu'r diriogaeth yn 620 o barthau.[25] Yn ôl swyddogion y Cenhedloedd Unedig, cafodd trigolion Gaza eu gorfodi i symud i ardal a oedd yn cyfri am draean o gyfanswm arwynebedd yr holl diriogaeth.[26] Ar y pryd, roedd rhyw 80 y cant o boblogaeth y diriogaeth yn bresennol yn ne Llain Gaza.[27] Ym Mai 2024, cyhoeddwyd rhagor o wacadau ar draws Llain Gaza, a gorfodwyd i 900,000 o bobl symud ymhen wythnos.[28]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.