From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhaliwyd digwyddiad aml-chwaraeon Gemau Paralympaidd yr Haf 2012, a adnabyddwyd yn swyddogol fel Gemau Paralympaidd XIV, yn Llundain, Lloegr, o 29 Awst tan 9 Medi 2012, yn fuan wedi Gemau Olympaidd yr Haf 2012 yn yr un ddinas.
Enghraifft o'r canlynol | Summer Paralympic Games |
---|---|
Dyddiad | 2012 |
Dechreuwyd | 29 Awst 2012 |
Daeth i ben | 9 Medi 2012 |
Lleoliad | Llundain |
Gwefan | https://www.paralympic.org/london-2012 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae perthynas hanesyddol rhwng y Deyrnas Unedig a'r Gemau Paralympaidd. Ym 1948, cynhaliwyd rhagflaenydd y Gemau Paralymaidd, sef Gemau Stoke Mandeville ym mhentref Stoke Mandeville, Lloegr. Trefnwyd hwy gan Dr. Ludwig Guttmann ac Ysbyty Stoke Mandeville, fel gemau athletau ar gyfer cyn-filwyr o'r Ail Ryfel Byd a oedd â anafiadau i'w madruddyn cefn, gan gyd-ddigwydd gyda cychwyn Gemau Olympaidd yr Haf 1948. Dyma oedd y digwyddiad athletau cyntaf erioed a drefnwyd ar gyfer yr anabl, ac erbyn 1960, roedd wedi esblygu i ddod yn Gemau Paralympaidd.[1] Roedd Stoke Mandeville yn westeiwyr i Gemau Paralympaidd yr Haf 1984 ynghyd â Long Island yr Unol Daleithiau, wedi i'r gwesteiwyr gwreiddiol, Prifysgol Illinois yn Champaign, Illinois, dynnu allan oherwydd problemau ariannol.[2]
Agorwyd y gemau'n swyddogol gan Ei Mawrhydi, Elizabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig.[3]
Ynghyd â'r Gemau Olympaidd, trefnwyd Gemau Paralympadd yr Haf 2012 gan LOCOG a'r Olympic Delivery Authority (ODA). LOCOG oedd yn gyfrifol am oruchwylio'r Gemau, tra bod ODA yn delio gyda'r strwythur a'r lleoliadau.
Roedd galw uchel am y 2.5 miliwn o docynnau a oedd ar gael ar gyfer Gemau Paralympaidd yr Haf 2012; erbyn 22 Awst 2012, roedd 2.3 miliwn wedi eu gwerthu.[4] Yn hanesyddol, yn ystod y Gemau Olympaidd y gwerthwyd y rhan helaeth o'r tocynnau Paralympaidd, ond ar gyfer y gemau rhain roedd 1.4 miliwn o docynnau eisoes wedi eu gwerthu cyn i'r Gemau Olympaidd gychwyn, gan ragori ar y cyfanswm a werthwyd yn Sydney.[5] Roedd cymaint o alw am y tocynnau yr achosodd problemau technegol i'r wefan, a redwyd gan Ticketmaster, a sefydlwyd i werthu'r tocynnau; bu nifer o gwynion gan defnyddwyr y wefan drwy'r cyfryngau cymdeithasol gan bobl oedd yn cael trafferth prynu eu tocynnau ar gyfer y gemau.[6]
Ar 8 Awst 2012, datganodd LOCOG eu bod wedi gwerthu 2.1 miliwn o docynnau Paralympaidd, 600,000 mewn ond mis, gan dorri'r record o 1.8 miliwn o docynnau a werthwyd yn Beijing. Rhoddodd llywydd yr IPC, Philip Craven, longyfarchiadau i Lundain am y gamp, gan nodi ei fod yn addas i fan geni ysbryd y Gemau Paralympaidd werthu cryn gymaint.[5] Roedd llwyddiant Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd a diddordeb gan gefnogwyr y "Blade Runner", Oscar Pistorius y rhedwr o Dde Affrica, a oedd wedi dod yr amputee dwbl cyntaf erioed i gystadlu yn y Gemau Olympaidd, wedi rhoi hwb i'r gwerthiant yn yr wythnosau'n arwain at y Gemau Paralympaidd.[7]
Cododd helynt ynglŷn â'r rheolau seti ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, wedi i ddwy fam anabl gyhuddo'r trefnwyr o fod â pholisiau gwahaniaethol. Honodd un bod aelod o staff LOCOG wedi dweud wrthi y gallai defnyddwyr cadair olwyn yn y Velodrome ond cael un oedolyn gyda hwy, ac na allai blant ddod heb fod oedolyn arall abl yno i ofalu amdanynt. Dywedwyd wrth y fam arall na allent warantu y byddai'n gallu eistedd gyda'i phlant yn ExCeL London. Cychwynwyd deiseb ar Change.org i wella'r hygyrchedd ar gyfer teuluoedd anabl, ac yn fuan iawn casglwyd dros 30,000 o lofnodion. Gwadodd LOCOG fod eu polisiau'n wahaniaethol, gan ddweud y gall rieni anabl ofalu am eu plant mewn ardaloedd seddi cadair olwyn wrth wylio digwyddiadau oedd heb seddi wedi eu cadw, ond na allent eistedd gyda'i gilydd lle'r oedd y seddi ar gadw.[8][9]
Roedd logo Gemau Paralympaidd yr Haf 2012 yn rhannu cynllun logo'r Gemau Olympaidd.[10] Dyluniwyd gan Wolff Olins, a cyhoeddwyd gyntaf ar 4 Mehefin 2007; mae'n ddehongliad o'r rhif 2012.[11] Defnyddiodd y fersiwn Paralympaidd liwiau gwahanol, gan gyfnewid yr "agitos" Paralympaidd am y Cylchoedd Olympaidd.[12]
Mandeville oedd mascot swyddogol Gemau Paralympaidd yr Haf 2012, a dadorchuddwyd ynghyd â'r mascot Olympaidd, Wenlock, ar 19 Mai 2010. Mae'r cymeriadau yn cymryd siap diferau o ddur toddedig o'r gwaith dur yn Bolton, ac mae ganddynt un llygad tebyg i gamera, gan gynrychioli ffocws a'r holl gamerâu a ddefnyddwyd i recordio'r gemau. Derbynir Mandeville ei enw fel anrhydedd i bentref Stoke Mandeville oherwydd ei bwysigrwydd yn hanes y Gemau Paralympaidd. Mae Mandeville hefyd yn gwisgo helmed aeroddynamig â lliwiau coch, gwyrdd a glas y logo Paralympaidd.[13][14]
Gemau Llundain oedd y gemau Paralympaidd mwyaf erioed hyd 2012.[15] Amcangyfrwyd y byddai 4,200 o chwaraewyr yn cystadlu yn y gemau, cynnydd o 250 dros Gemau Paralympaidd yr Haf 2008. Roeddent yn cynrychioli 165 gwlad, 19 yn fwy nag oedd yn Beijing. Roedd 15 gwlad yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd am y tro cyntaf: Antigwa a Barbiwda, Brwnei, Camerŵn, Comoros, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Jibwti, y Gambia, Gini Bisaw, Liberia, Malawi, Mosambic, Gogledd Corea, San Marino, Ynysoedd Solomon ac Ynysoedd irgin yr Unol Daleithiau.[15] Roedd Trinidad a Tobago hefyd yn dychwelyd i gystadlu yn y Gemau Paralympaidd am y tro cyntaf ers 1988.[16][17]
Anfonwyd chwaraewyr i'r gemau gan y Pwyllgorau Paralympaidd Cenedlaethol:[18]
Cystadlwyd ugain o wahanol chwaraeon yn ystod Gemau Paralympaidd 2012.[27]
Am y tro cyntaf ers 2000, roedd gemau ar gyfer chwaraewyr gyda anabledd meddyliol yn dychwelyd i'r Gemau Paralympaidd; gyda cystadlaethau athletau, nofio a tenis bwrdd.[28][29] Roedd cystadlaethau ar gyfer chwaraewyr gydag anabledd meddyliol wedi cael eu atal dros dro yn dilyn Gemau Paralympaidd yr Haf 2000, er mwyn galluogi'r PPRh i ail-werthuso sut y gallent eu cynnwys, gan y bu helynt yn 2000, pan dwyllodd y tîm pêl-fasged Sbaenaidd, a tynnwyd y fedal aur oddi arnynt, wedi canfod mai dim ond 2 allan o 12 o'r chwaraewyr oedd yn gymwys i gystadlu yn y categori hwnnw.[30]
Dynodir y nifer o gystadlaethau a gynhelir ym mhob chwaraeon yn y cromfachau
|
|
|
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.