Awdur, dramodydd ac ymgyrchydd o Gymro From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur, dramodydd ac ymgyrchydd o Gymru oedd Gareth Miles (19 Ebrill 1938 – 6 Medi 2023).[1]
Gareth Miles | |
---|---|
Ganwyd | 19 Ebrill 1938 Caernarfon |
Bu farw | 6 Medi 2023 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, athro, dramodydd |
Fe'i ganwyd yng Nghaernarfon a'i fagu yn Waunfawr ond mae ei wreiddiau yn Mhontrhydyfen.[2] Roedd ganddo ddwy chwaer, Lisabeth a Gill. Mynychodd Brifysgol Bangor cyn mynd yn athro Ffrangeg a Saesneg yn Amlwch, Dyffryn Nantlle, ac Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam. Yn ddiweddarach ymgartrefodd ym Mhontypridd.[3]
Bu'n drefnydd cenedlaethol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) ac roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Bu'n awdur proffesiynol ers 1982. Llwyfanwyd dros ugain o ddramâu gwreiddiol a chyfieithiadau o'i eiddo.[4] Fe weithiodd hefyd fel sgriptiwr ar raglenni teledu gan gynnwys y cyfresi drama Pobol y Cwm, Coleg, a Dinas.
Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2008 am Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel.
Roedd yn briod a Gina ac roedd ganddynt tri o blant - Elen, Branwen ac Eiry.
Bu farw ar 6 Medi 2023, gartref gyda'i deulu. Cynhaliwyd ei angladd ar ddydd Gwener, 22 Medi 2023. Cafwyd gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Glyn Taf, Pontypridd am 12:45 â ddilynwyd gan dderbyniad yng Nghlwb y Bont, Pontypridd.[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.