Frida Kahlo
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Magdalena del Carmen Frida Kahlo Calderón, (6 Gorffennaf 1907 – 13 Gorffennaf 1954[1]) a adwaenid fel Frida Kahlo yn baentwraig Fecsicanaidd, yn briod i'r arlunydd murluniau enwog Diego Rivera.[2]
Frida Kahlo | |
---|---|
Ganwyd | Magdalena Carmen Frida Kahlo Calderón 6 Gorffennaf 1907 Dinas Mecsico, Coyoacán |
Bu farw | 13 Gorffennaf 1954 Dinas Mecsico, Coyoacán |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Galwedigaeth | arlunydd |
Adnabyddus am | Still Life: Pitahayas, The Two Fridas |
Arddull | portread (paentiad), hunanbortread, portread |
Plaid Wleidyddol | Mexican Communist Party |
Mudiad | Swrealaeth, realaeth hudol |
Tad | Guillermo Kalho |
Priod | Diego Rivera, Diego Rivera |
llofnod | |
Dioddefodd salwch a damwain traffig gwael yn ifanc a effeithiodd yn ddifrifol arni am weddill ei hoes a chafodd 32 o driniaethiau llawfeddygol.[3][4] Bu fyw bywyd anghonfensiynol wrth gymharu ag arferion y cyfnod: roedd yn ddeurywiol ac roedd ei chariadon yn cynnwys Leon Trotsky.[3][5]
Yn bennaf roedd ei gwaith yn hunanfywgraffiadol ac yn aml yn mynegi ei dioddefaint personol. Peintiodd ryw 200 o luniau, y rhan fwyaf ohonynt yn hunanbortreadau yn cyfleu ei brwydr feunydd. Ddylanwadwyd Kahlo gan ei gŵr, y peintiwr adnabyddus Mecsicanaidd Diego Rivera. Roedd y ddau'n rhannu diddordeb yng nghelfyddyd werinol pobloedd brodorol Mecsico.
Ym 1939 arddangoswyd ei gwaith yn Ffrainc ar wahoddiad André Breton, a geisiodd ei darbwyllo bod ei gwaith yn swrrealaidd, ond mynnodd Kahlo nid oedd y gwaith yn adlewyrchu breuddwydion ond ei bywyd ei hun. Er iddi ennyn edmygydd peintwyr enwog a gwybodusion y cyfnod fel Pablo Picasso, Wassily Kandinsky a Marcel Duchamp roedd ei gwaith ond i ennill poblogrwydd a chydnabyddiaeth ryngwladol eang ar ôl ei marwolaeth.
Arhosodd gwaith Kahlo fel arlunydd yn gymharol anhysbys tan ddiwedd y 1970au, pan ddarganfuwyd ei gwaith gan haneswyr celf ac actifyddion gwleidyddol. Erbyn dechrau'r 1990au, roedd hi wedi dod nid yn unig yn ffigwr cydnabyddedig yn hanes celf, ond hefyd yn cael ei ystyried yn eicon i'r Chicanos, y mudiad ffeministiaeth a'r mudiad LGBTQ +. Mae gwaith Kahlo wedi cael ei ddathlu’n rhyngwladol fel symbol o draddodiadau cenedlaethol a brodorol Mecsicanaidd a chan ffeministiaid am yr hyn a ystyrir yn ddarlun digyfaddawd o brofiad a ffurf y fenyw.